Rheolwr Cymru Chris Coleman
Mae Cymru dal yn gobeithio trefnu gêm gyfeillgar yn erbyn yr Ariannin dros y misoedd nesaf allai weld dau o chwaraewyr gorau’r byd, Gareth Bale a Lionel Messi, yn herio’i gilydd ar y llwyfan rhyngwladol.

Awgrymodd rheolwr y tîm cenedlaethol Chris Coleman fodd bynnag bod gwledydd Ewropeaidd ofn herio Cymru bellach ers iddyn nhw wneud eu marc yng ngrwpiau rhagbrofol Ewro 2016.

Dim ond pwynt sydd ei angen ar Gymru o’u dwy gêm olaf yn yr ymgyrch yn erbyn Bosnia ac Andorra’r wythnos hon i sicrhau eu lle yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Fel rhan o baratoadau ar gyfer chwarae yn yr Ewros fe fyddai Coleman yn hoffi dwy gêm gyfeillgar yn erbyn gwrthwynebwyr heriol ym mis Tachwedd eleni.

Ofn Cymru?

Mae rheolwr Cymru wedi cyfaddef fodd bynnag eu bod wedi cael amser anodd yn denu gwrthwynebwyr o safon, a hynny er eu bod nhw bellach yn wythfed yn y byd.

“Roedden ni’n meddwl y bydden ni’n gallu temtio timau fel Sbaen neu’r Almaen a gweld pa mor dda ydyn ni, ond hyd yn hyn does dim diddordeb wedi bod,” meddai Coleman.

“Fe wnaeth un neu ddau ddweud na a doedd yr Eidal ddim eisiau ein chwarae ni. O edrych ar gemau cyfeillgar mae’r timau mawr yn tueddu i gadw pethau ymysg ei gilydd. Mae hynny’n siomedig.

“Fe gawson ni’r Iseldiroedd haf diwethaf a ‘dych chi eisiau chwarae yn erbyn y timau yna, y cewri.

“Ond dydyn ni ddim yn cael ein gweld fel Lloegr, yr Eidal a Sbaen ac rydyn ni yn y lle yna ble gallwn ni fod yn berygl i’r bechgyn mawr achos fe allen ni ennill. Falle eu bod nhw’n ein hofni ni.”

Herio’r Ariannin

Fe geisiodd Cymru drefnu gêm gyfeillgar yn erbyn yr Ariannin eleni, a fyddai wedi bod yn rhan o ddathliadau 150 mlynedd y glaniad ym Mhatagonia.

Ond yn ôl Coleman, mae’r posibilrwydd dal yno y gallai’r ddwy wlad wynebu’i gilydd y flwyddyn nesaf.

“Mae sôn am gael yr Ariannin ar ôl y Nadolig,” meddai Coleman. “Mae e wedi cael ei ystyried ers sbel ac fe fyddai’n grêt petawn ni’n gallu cadarnhau hynny.

“Os ydyn ni’n cyrraedd Ffrainc fe fydd angen cwpl o gemau cyffrous arnom ni cyn i ni fynd yno.

“Unwaith fyddwn ni’n gwybod y grwpiau [i Ewro 2016] fe fydd gennym ni well syniad.”