Elfyn Evans
Mae Elfyn Evans wedi disgrifio ei berfformiad yn Rali Corsica fel uchafbwynt personol i goroni “wythnos wych i chwaraeon Cymru”, ar ôl sicrhau canlyniad orau ei yrfa hyd yn hyn.

Fe orffennodd y Cymro a’i gyd-yrrwr Daniel Barritt yn ail yn y ras dros y penwythnos, ei ganlyniad gorau ers dechrau rasio ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd llynedd.

Roedd y gyrrwr M-Sport ar y blaen o 30 eiliad ar ôl y diwrnod cyntaf o rasio, er gwaethaf tywydd garw, cyn colli’r fantais i Jari-Matti Latvala o ddwy eiliad dydd Sadwrn.

Fe chwaraeodd yr amodau heriol eu rhan unwaith eto dydd Sul wrth i Latvala gipio’r fuddugoliaeth, gydag Elfyn Evans yn ail ac yn cryfhau ei afael ar y seithfed safle yn y tabl cyffredinol.

‘Wrth fy modd’

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n deg dweud ei bod hi wedi bod yn wythnos wych i chwaraeon Cymru!” meddai’r gŵr o Ddolgellau.

“I weld y tîm rygbi’n gwneud cystal, ac wedyn fy nghanlyniad i fan hyn, mae o jyst yn grêt a dw i’n gobeithio fod yr hogiau nôl adre’n falch ohono i.

“Yn amlwg ‘da ni wrth ein bodd efo’r canlyniad. Ar ôl dod yma am y tro cyntaf a gweld pa mor anodd oedd yr amodau, nes i ddim dychmygu y buasem ni’n arwain y rali o gymaint.

“Roedd o’n sypreis neis a dweud y lleiaf, a dw i’n falch ein bod ni wedi llwyddo i sicrhau canlyniad cystal i’r tîm achos maen nhw wir yn ei haeddu.”

Dwy rali sydd ar ôl o Bencampwriaeth y byd eleni, gyda ras Sbaen yn cael ei chynnal rhwng 22 a 25 Hydref ac yna Rali Cymru GB rhwng 12 a 15 Tachwedd yn cloi’r gystadleuaeth.