Mae ymosodwr Abertawe, Bafetimbi Gomis wedi galw ei dîm i barhau â’u llwyddiant yn yr Uwch Gynghrair ar ôl seibiant ar gyfer gemau rhyngwladol yr wythnos hon.

Fe fydd yr Elyrch yn teithio i Watford y penwythnos nesaf yn dilyn pedair gêm ddi-guro mor belled, gan gynnwys buddugoliaeth gartref o 2-1 dros Man U yr wythnos diwethaf.

Mae Gomis, 30, wedi sgorio ym mhob un o gemau Abertawe yn y gynghrair y tymor hwn.

Dywedodd Gomis: “Ry’n ni mewn sefyllfa wych. Ry’n ni wedi dechrau’n wych ond rhaid i ni barhau i weithio’n galed a chael y canlyniadau cywir.”

Wrth drafod y fuddugoliaeth dros Man U, ychwanegodd: “Roedd yn berfformiad gwych unwaith eto gan y tîm.

“Roedd y bas gan Andre o safon uchel ac ro’n i wedi gallu manteisio arni i sgorio.

“Fe guron ni Manchester United gartref ac oddi cartref y llynedd felly roedd yn dda iawn cael eu curo nhw unwaith eto yn y Liberty i gael triphwynt.

“Roedd yn ymdrech lew gan y tîm ac ry’n ni i gyd yn hapus gyda’r canlyniad.”