Ni fydd James Chester ar gael ar gyfer gornest Cymru yn erbyn Cyprus yn Nicosia heno.

Mae amddiffynnwr canol West Brom wedi anafu llinyn y gâr.

Ond mae disgwyl iddo ddychwelyd i’r garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Israel yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Mae newyddion gwell am ffitrwydd y chwaraewr canol cae Hal Robson-Kanu, sy’n holliach yn dilyn anaf i gesail y forddwyd.

Byddai buddugoliaeth i Gymru heno ac yn erbyn Israel yng Nghaerdydd ddydd Sul yn sicrhau eu lle yn un o’r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf ers iddyn nhw gyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop yn 1976.