Mae adroddiadau’n awgrymu y bydd timau Uwch Gynghrair y Principality yn sgorio chwe phwynt am gais o dan system sgorio newydd a allai gael ei datgelu heddiw.

Mewn ymgais i annog rygbi ymosodol, fe allai gwerth ciciau cosb a chiciau adlam ostwng i ddau bwynt yr un, ac fe fydd gwerth trosgais yn codi i wyth pwynt.

Fe fydd Undeb Rygbi Cymru’n arbrofi gyda’r system newydd yn y Bencampwriaeth.

Hwn yw’r datblygiad diweddaraf mewn cyfres o fesurau newydd sy’n cael eu cyflwyno ar gyfer y tymor newydd.

Ni fydd yr un o’r 12 o dimau presennol yn gostwng i’r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor, tra bydd pedwar tîm o’r Bencampwriaeth yn ennill dyrchafiad i greu Uwch Gynghrair estynedig o 16 o dimau.

Gallai’r mesurau eraill gynnwys diddymu’r angen am drosi ceisiau cosb a gorfodi timau i ddefnyddio wyth chwaraewr mewn sgrymiau bob tro, hyd yn oed os yw un o’r blaenwyr yn cael ei anfon i’r gell cosb.

Mae disgwyl i’r cynlluniau llawn gael eu datgelu wrth lansio’r gynghrair yn Heol Sardis ym Mhontypridd heddiw.