Mater o amser yw hi cyn i ddyfarnwr criced gael ei ladd o dan y rheolau bowlio presennol, yn ôl cyn-gricedwr a phrif ddewiswr presennol Awstralia, Rod Marsh.

Mae diogelwch chwaraewyr a dyfarnwyr yn bwnc llosg yn y byd criced ers cryn amser, yn enwedig yn sgil marwolaeth Phil Hughes yn dilyn ergyd ar y cae yn Awstralia fis Tachwedd y llynedd.

Ar hyn o bryd, rhaid i’r bowliwr gadw rhan o’i droed flaen y tu ôl i’r cris blaen wrth ollwng y bêl o’i law.

Ond byddai gorfodi’r bowliwr i gadw ei droed ôl y tu cefn i’r cris ôl wrth ollwng y bêl yn galluogi’r dyfarnwr i sefyll dau fetr ymhellach yn ôl o’r ffyn, ym marn Marsh, gan roi mwy o amser iddo ymateb pe bai’r bêl yn cael ei tharo i’w gyfeiriad.

Cafodd rheol o’r fath ei dileu yn 1963, pan gafodd y pwyslais ei roi ar y droed flaen.

Mae sylwadau Marsh yn ategu barn Awstraliad blaenllaw arall, Ian Chappell yn 2012.

Lleisiodd Marsh ei farn wrth draddodi darlith goffa flynyddol yr Arglwydd Colin Cowdrey yn Lord’s nos Fawrth.

Dywedodd Marsh: “Mater o amser yw hi cyn i ddyfarnwr mewn gornest rhyngwladol neu ddosbarth cyntaf gael ei anafu’n ddifrifol, os nad ei ladd.

“Rhowch eich hun yn sefyllfa’r dyfarnwr pan fo batiwr gydag arf fawr yn rhedeg at y bowliwr ac yn taro ergyd syth ar uchder y frest.

“Byddwn i am sefyll mor bell yn ôl â phosib a thrwy ddychwelyd i reol y droed ôl, mae gan y dyfarnwr gyfle i sefyll o leiaf ddau fetr ymhellach yn ôl.

“Pe bawn i’n digwydd bod yn ddyfarnwr nawr, byddwn i’n gwisgo helmed bêl-fas, pad ar y frest, coesarnau a diogelwr ar y stumog.

“Efallai bod rhaid i ni wneud cyfarpar diogelwch yn orfodol i’r dyfarnwyr ar gyfer pob gêm ryngwladol a dosbarth cyntaf.”

Mae disgwyl i ddiogelwch fod yn un o brif bynciau trafodaethau’r dyfarnwyr dosbarth cyntaf yng Nghymru a Lloegr pan fyddan nhw’n cyfarfod ar ddiwedd y tymor.