Regan Poole yn chwarae i Gasnewydd (llun o wefan y clwb)
Mae Manchester United wedi arwyddo’r Cymro ifanc Regan Poole o glwb Casnewydd ar ddiwrnod cau y ffenestr drosglwyddiadau.

Mae rheolwr United, Louis van Gaal wedi dweud yn gwbl agored dros yr haf mai ei brif darged ydy seren Cymru, Gareth Bale, ond ddiwedd y prynhawn heddiw torodd y newyddion bod cochion Manceinion wedi arwyddo Cymro gwahanol.

Poole ydy’r chwaraewyr ieuengaf i chwarae dros dîm cyntaf Casnewydd ar ôl iddo ymddangos yn y gêm yn erbyn yr Amwythig llynedd yn 16 mlwydd a 94 diwrnod oed.

Bu’r chwarawr ar dreial gyda Man UTD a Lerpwl yn ddiweddar ac roedd sôn bod Hull â diddordeb yn yr amddiffynwr canol hefyd.

Er nad yw’r union ffi wedi’i gadarnhau, y gred yw bod United wedi talu £100,000 am Poole, gyda’r ffi’n codi i £400,000 yn ddibynol ar ymddangosiadau.

Mae nifer o chwaraewyr a chefnogwyr Casnewydd wedi bod yn dymuno’n dda i Poole ar Twitter, yn eu mysg y cyflwynydd Idris Charles.

Bydd Poole yn chwarae i dîm dan 19 Cymru ym Mangor ddydd Sadwrn wrth iddynt herio Gwlad Pwyl.