Y Bala 2–1 Airbus      
                                                                         

Sgoriodd Anthony Stephens ddwy gôl ar Faes Tegid brynhawn Llun wrth i’r Bala drechu Airbus.

Llwyr reolodd Airbus chwarter cyntaf y gêm ond Y Bala aeth ar y blaen yn erbyn llif y chwarae wedi hanner awr.

Anelodd Mark Connolly gic rydd beryglus i’r cwrt cosbi a pheniodd Stephens heibio James Coates yn y gôl.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond daeth Ryan Wade yn agos iawn at unioni pethau’n gynnar yn yr ail gyfnod ond crymanodd ei ergyd yn erbyn y postyn.

Yn y pen arall, arbedodd James Coates beniad Dave Artell cyn i Ashley Morris yn y gôl i’r Bala wneud arbediad gwych i atal Tony Gray.

Cafodd Gray gyfle arall dri munud o ddiwedd y naw deg yn dilyn gwaith da Andy Jones a daeth o hyd i gefn y rhwyd y tro hwn.

Byddai pwynt yr un wedi bod yn ganlyniad teg ond roedd drama hwyr i fod wrth i Stephens rwydo o’r smotyn yn dilyn trosedd Jordan Barrow ar Kieran Smith.

2-1 y sgôr terfynol felly o blaid y Bala.

.

Y Bala

Tîm: Morris, Valentine, Stephens, Artell, Irving, Murtagh, Connolly (Hunt 69’), Jones, Pearson, Sheridan (Thompson 54’), Smith

Goliau: Stephens 30’, [c.o.s.] 90’

.

Airbus

Tîm: Coates, Pearson, Williams (Lee Owens 46’), Field, Budrys, McGinn (Evans 82’), Wade, Barrow, Gray, Jones, Fraughan (Murphy 67’)

Gôl: Gray 87’

Cerdyn Melyn: Williams 29’

.

Torf: 404