Warren Gatland (llun: Joe Giddens/PA)
Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland, wedi enwi’r 31 o ddynion a fydd yn ei garfan ar gyfer twrnameint cwpan y byd.

Er bod capten Cymru, Sam Warburton, yn eu plith, dywed Gatland na fydd lle neb yn sicr mewn unrhyw gêm.

“Fe fyddwn ni’n dewis y tîm gorau ar gyfer pob gêm y byddwn ni’n ei chwarae,” meddai, gan awgrymu y gallai Justin Tipuric gapteinio rhai o’r gemau wrth ganmol ei berfformiad yn y gêm yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn.

Mae dewis Gatland yn golygu bod saith chwaraewr o’i garfan hyfforddi wedi cael eu gollwng: Kristian Dacey, Ross Moriarty, Eli Walker, Tyler Morgan, Gareth Anscombe, Scott Andrews a Rob Evans.

“Roedd rhai o’r penderfyniadau ar dafliad ceiniog,” meddai Gatland. “Mae’n siom fawr i’r chwaraewyr sydd heb gael eu dewis. Ond rhaid derbyn mai dyna yw natur chwaraeon proffesiynol a rhaid i ni wneud y dewisiadau sy’n iawn yn ein barn ni.”

Y garfan yn llawn

Leigh Halfpenny

Liam Williams

George North

Alex Cuthbert

Hallam Amos

Matthew Morgan

Scott Williams

Jamie Roberts

Cory Allen

Dan Biggar

Rhys Priestland

Rhys Webb

Gareth Davies

Lloyd Williams

Gethin Jenkins

Paul James

Samson Lee

Tomas Francis

Aaron Jarvis

Scott Baldwin

Ken Owens

Alun-Wyn Jones

Jake Ball

Luke Charteris

Bradley Davies

Dominic Day

Dan Lydiate

Sam Warburton

Justin Tipuric

James King

Taulupe Faletau