Mae chwaraewr canol cae Abertawe, Jonjo Shelvey wedi’i gynnwys yng ngharfan Lloegr ar gyfer eu gemau rhagbrofol ar gyfer Ewro 2016 yn erbyn San Marino a’r Swistir.

Pe bai’n cael ei ddewis yn yr unarddeg ar gyfer yr un o’r ddwy gêm, Shelvey, 23, fyddai’r chwaraewr cyntaf i gynrychioli Lloegr tra ei fod yn chwarae i’r Elyrch.

Daeth ei gap cyntaf fel eilydd yn erbyn San Marino pan enillodd Lloegr o 5-0.

Cafodd Shelvey ei gynnwys yng ngharfan Roy Hodgson fis Hydref diwethaf, ond roedd wedi anafu bryd hynny.

Daw’r cyhoeddiad am Shelvey ar y diwrnod y chwaraeodd yn nhîm Abertawe oedd wedi trechu Man U o 2-1 yn Stadiwm Liberty.

Dywedodd rheolwr Lloegr, Roy Hodgson fod Shelvey “wedi creu cryn argraff ers dechrau’r tymor”.

Bydd Lloegr yn teithio i San Marino ar Fedi 5 cyn herio’r Swistir yn Wembley dridiau’n ddiweddarach.