Yn dilyn Cyfres y Lludw lwyddiannus i Loegr a ddechreuodd yn y Swalec SSE ym mis Gorffennaf, fe fyddan nhw’n herio Awstralia unwaith eto ddydd Llun mewn gornest ugain pelawd.

Does dim lle yng ngharfan Lloegr i un o sêr y Lludw, Joe Root wrth iddo orffwys, ond mae Moeen Ali yn dychwelyd wedi iddo yntau orffwys yn ystod y gemau undydd yn erbyn Seland Newydd.

Pump o chwaraewyr yng ngharfan Lloegr a chwaraeodd yng nghyfres y Lludw – Moeen Ali, Jos Buttler, Steven Finn, Ben Stokes a Mark Wood.

Daw bowliwr cyflym llaw chwith Swydd Essex, Reece Topley i mewn i’r garfan, ac mae lle hefyd i gapten Swydd Hampshire, James Vince.

Daw bowliwr Swydd Warwick, Chris Woakes yn ôl i mewn i’r garfan yn dilyn anaf.

Does dim lle, fodd bynnag, i fatiwr Swydd Efrog, Jonny Bairstow.

Wrth i Awstralia ddechrau ystyried beth aeth o’i le yn y profion, maen nhw wedi enwi carfan wahanol iawn ar gyfer y gemau undydd, gyda dim ond pump o garfan y Lludw’n cadw eu llefydd.

Y pump sydd wedi’u cadw yw Steve Smith, Shane Watson, David Warner, Mitchell Marsh a Mitchell Starc.

Daw chwaraewr amryddawn Victoria, Marcus Stoinis a’r troellwr coes Cameron Boyce i mewn i’r garfan am y tro cyntaf, ac mae disgwyl i Stoinis gael ei enwi ymhlith yr unarddeg fydd yn ymddangos yng Nghaerdydd.

Steve Smith, capten newydd y tîm prawf, fydd yn arwain Awstralia yn absenoldeb Aaron Finch, ac mae’n awyddus i anghofio am Gyfres y Lludw ar ddechrau’r gyfres hon.

Dywedodd: “Fe fu’n siomedig i ni’n amlwg o ran y Lludw a’u cadw nhw ond mae’n ddechreuad ffres i ni gyda chapten newydd.

“Gobeithio y galla i symud y tîm hwn ymlaen – ac mae’n dechrau yma yng Nghaerdydd.”