Abertawe 2–1 Man U                                                                        

Tarodd Abertawe yn ôl i drechu Man U mewn gêm dda ar y Liberty brynhawn Sul. Rhoddodd Mata yr ymwelwyr ar y blaen cyn i Ayew a Gomis rwydo i gipio’r tri phwynt i’r Cymry.

Man U ddechreuodd y gêm orau ond daeth yr Elyrch fwyfwy i mewn iddi wrth i’r hanner fynd yn ei flaen a hwythau gafodd y cyfleoedd gorau.

Cafodd Gylfi Sigurdsson gyfle gwych o gic rydd Jonjo Shelvey wedi 25 munud ond llusgodd ei ergyd heibio’r postyn.

Creodd Bafetimbi Gomis gyfle da iddo’i hun ddau funud yn ddiweddarach cyn anelu ei ergyd yn erbyn y postyn.

Di sgôr oedd hi ar hanner amser felly ond tri munud yn unig gymerodd hi i Juan Mata roi’r ymwelwyr ar y blaen wedi’r egwyl, y Sbaenwr yn sgorio wrth y postyn pellaf yn dilyn gwaith da Luke Shaw i lawr y chwith.

Bu rhaid i Lukasz Fabianski wneud arbediad da dri munud yn ddiweddarach i atal Ashley Williams rhag dyblu’r fantais gyda gôl i’w rwyd ei hun.

Doedd Abertawe ddim yn haeddu bod ar ei hôl hi, ac roeddynt yn gyfartal ar yr awr pan beniodd Andre Ayew groesiad Sigurdsson i gefn y rhwyd.

Pum munud yn ddiweddarach roedd Abertawe ar y blaen ac roedd Ayew yn ei chanol hi eto, ei bas gywrain ef a ddaeth o hyd i Gomis a rhwydodd yntau gyda chymorth ymdrech chwerthinllyd gan Sergio Romero yn y gôl.

Fe daflodd yr ymwelwyr ambell bêl hir anobeithiol i gyfeiriad cwrt cosbi’r Elyrch yn y munudau olaf ond ymdopodd Ashley Williams a’i amddiffyn yn gyfforddus gyda phopeth.

Mae’r canlyniad yn codi Abertawe i’r pedwerydd safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Williams, Taylor, Cork, Shelvey (Bartley 89′), Ayew , Sigurdsson, Routledge (Ki Sung-yueng 58′), Gomis (Éder 81′)

Goliau: Ayew 61’, Gomis 66’

Cardiau Melyn: Routledge 43’, Shelvey 80’

.

Man U

Tîm: Romero, Darmian, Smalling, Blind, Shaw, Schneiderlin (Carrick 70′), Schweinsteiger, Mata (Young 70′), Herrera (Fellaini 77′), Depay, Rooney

Gôl: Mata 48’,

Cardiau Melyn: Schneiderlin 38’, Depay 41’

.

Torf: 20,828