Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cadarnhau bod eu prif dirmon Keith Exton wedi gadael ei swydd.

Roedd Exton wedi’i ddiarddel o’i waith yn dilyn ymchwiliad mewnol gan y clwb, ac fe gyhoeddodd y clwb na fyddai’n gyfrifol am baratoi’r llain ar gyfer y ddwy ornest T20 ryngwladol rhwng Lloegr ac Awstralia – y dynion a’r marched – ddydd Llun.

Cafodd gornest 50 pelawd yng nghwpan Royal London yn erbyn Swydd Hampshire ei therfynu’n gynnar ar Awst 2 ar ôl i’r dyfarnwyr, ynghyd â swyddog o’r ECB, benderfynu bod y llain yn rhy beryglus i barhau.

Yn dilyn y ffrae, cafodd y clwb ddirwy o £9,000 ac fe gollon nhw bwyntiau yn y gystadleuaeth.

Collodd y clwb bwyntiau y tymor diwethaf hefyd, bryd hynny oherwydd cyflwr “gwael” y llain yn dilyn gornest yn erbyn Swydd Durham.

Mewn datganiad, dywedodd Clwb Criced Morgannwg: “Hoffai’r Clwb ddiolch i Keith am chwarae rhan wrth sefydlu’r SSE Swalec ar y calendr criced rhyngwladol ac yn enwedig am baratoi dwy lain ar gyfer profion y Lludw yn ystod ei chwe blynedd wrth ei waith yng Nghaerdydd.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Ar ran Clwb Criced Morgannwg, hoffwn ddiolch i Keith am y cyfraniad mae e wedi’i wneud i’r Clwb, a dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.”

Penderfynodd y prif dirmon blaenorol, Len Smith ymddeol yn gynnar yn 2008, lai na blwyddyn cyn i Stadiwm Swalec gynnal prawf y Lludw am y tro cyntaf yn eu hanes.

Adeg ymadawiad Smith, cafodd y tirmyn eu beirniadu am fod yn araf wrth ymateb i law trwm yn ystod gornest ryngwladol rhwng Lloegr a De Affrica ac am safon yr offer a gafodd ei ddefnyddio.