Mae Clwb Criced Morgannwg yn disgwyl clywed yr wythnos nesaf beth fydd eu cosb ar ôl i’w gornest 50 pelawd yng nghystadleuaeth Cwpan Royal London yn erbyn Swydd Hampshire yng Nghaerdydd gael ei therfynu oherwydd bod y llain yn beryglus.

Mae’r clwb eisoes yn cynnal ymchwiliad i gyflwr y llain, a dydy’r Prif Weithredwr Hugh Morris ddim wedi wfftio’r posibilrwydd y gallai’r tirmon Keith Exton golli ei swydd yn sgil yr ymchwiliad, yn ôl y BBC.

Mae swyddog yr ECB, Tony Pigott wedi cyfweld â chapten Morgannwg, Jacques Rudolph, capten Swydd Hampshire James Vince, a’r ddau ddyfarnwr Neil Mallender a Paul Baldwin.

Ar ôl i’r ornest ddod i ben yn gynnar yn yr ail fatiad, cyhoeddodd Morgannwg y bydden nhw’n ad-dalu’r cefnogwyr yn llawn, ac ymddiheurodd Hugh Morris am yr anghyfleustra a gafodd ei achosi.

Y cefndir

Fe ddeilliodd y drafodaeth o fownsar a gafodd ei fowlio gan fowliwr cyflym Morgannwg, Michael Hogan at Jimmy Adams yn y seithfed pelawd.

Dywedodd Adams wrth Sky Sports: “Doedd dim byd mawr o’i le. Roedd un belen yn eithafol a dyna pam roedd trafodaeth.

Dywedodd capten Morgannwg, Jacques Rudolph: “Do’n i ddim yn mynd i dynnu Michael Hogan allan o’r ymosod. Roedd rhaid i ni geisio cipio wicedi o’r dechrau.”

Yn ddiweddarach ar ei dudalen Twitter, dywedodd Rudolph: “Ymddiheriadau diffuant i gefnogwyr @GlamCricket fod yr ornest wedi dod i ben yn y modd yna. Gwnaeth y dyfarnwyr y penderfyniad cywir – diogelwch chwaraewyr ddaw gyntaf.”

Ychwanegodd capten Swydd Hampshire, James Vince: “Pe baen ni wedi gallu, fe fydden ni wedi aros allan yno, ond penderfyniad y dyfarnwyr oedd e.

“Roedd ‘Carbs’ [y batiwr Michael Carberry] yn dweud ei fod e’n teimlo bod y llain yn beryglus.”

Yn ddiweddarach ar ei dudalen Twitter, roedd Vince yn mynnu y dylai Swydd Hampshire fod wedi cael y pwyntiau am y fuddugoliaeth gan eu bod nhw ar y blaen trwy ddull Duckworth-Lewis pan ddaeth yr ornest i ben.

“Roedd y llain wedi dod yn rhy beryglus, ond dim rheswm pam na ddylen ni gael 2 bwynt o’r ornest, roedd Duckworth Lewis bryd hynny’n 9-0.”

Ymateb y swyddogion

Dywedodd swyddog cyswllt yr ECB, Tony Piggott wrth Sky Sports: “Mae’r dau ddyfarnwr wedi penderfynu nad oes modd chwarae ar y llain, ac wedi dod â’r gem i ben.

“Mae’r llain yn sych iawn, does dim modd darogan sut y mae’r bel yn llamu ac mae’r penderfynu bod y llain yn un beryglus.”

Dywedodd prif weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Ry’n ni’n hynod siomedig. Ond roedd y dyfarnwyr yn gywir yn eu penderfyniad.

“Fe fydd ymchwiliad llawn i gyflwr y llain, ac fe fyddwn ni’n ad-dalu’r cefnogwyr yn llawn.”

Mae e wedi wfftio adroddiadau bod llain wahanol wedi cael ei dewis ar y funud olaf oherwydd bod yr ornest yn cael ei darlledu’n fyw ar Sky Sports.

Cafodd yr un llain ei defnyddio ar gyfer yr ornest yn erbyn Swydd Essex nos Wener diwethaf.

Yn gynharach yn yr ornest, roedd Morgannwg wedi sgorio 182-9.

Nid dyma’r tro cyntaf i lain Morgannwg gael ei beirniadu.

Fe ddechreuodd Morgannwg y gystadleuaeth ar -2 o bwyntiau oherwydd cwyn y tymor diwethaf yn yr ornest yn erbyn Swydd Durham, ac roedd nifer yn feirniadol o safon y llain yn ystod prawf cyntaf Cyfres y Lludw fis diwethaf.