Fe fydd Morgannwg yn teithio i Edgbaston i herio Swydd Warwick yn eu pumed gêm mewn naw o ddiwrnodau yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London.
Daw’r ornest ddiweddaraf yn y gystadleuaeth hon ddiwrnod yn unig wedi i’w gêm yn erbyn Swydd Hampshire yng Nghaerdydd ddod i ben yn gynnar ar ôl i’r dyfarnwyr benderfynu bod y llain yn rhy beryglus i’r batwyr.
Dydy Morgannwg ddim wedi chwarae mewn gêm Rhestr A yn Edgbaston ers mis Gorffennaf 2009, pan ddaeth yr ornest i ben oherwydd y glaw ar ôl 18.3 o belawdau.
Roedd eu hymweliad blaenorol â Birmingham yn 2004, yn ystod y tymor pan gipion nhw dlws y Gynghrair Genedlaethol. Bryd hynny, roedd bowliwr cyflym llaw chwith Morgannwg, Graham Wagg yn nhîm Swydd Warwick a gollodd o 13 o rediadau.
Newyddion am y timau i ddilyn.