Mae Clwb Criced Bronwydd allan o Gwpan Pentrefi Davidstow ar ôl colli o 57 o rediadau yn erbyn Pelsall o Ganolbarth Lloegr yn rownd yr wyth olaf.

Sgoriodd Pelsall 205-8 oddi ar eu 40 pelawd ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio’n gyntaf.

Wrth ymateb, cafodd y Cymry eu bowlio allan am 148.

Cafodd yr ornest ei hail-drefnu a’i symud o Fronwydd i Pelsall ar ôl i’r glaw olygu nad oedd hi’n bosib ei chynnal yng Nghymru ddydd Sul diwethaf.

Roedd Bronwydd ddwy fuddugoliaeth i ffwrdd o chwarae yn y ffeinal yn Lord’s.

Ar ôl colli yn y gwpan, fe fydd sylw Bronwydd bellach yn troi at ail adran Cymdeithas Criced De Cymru, lle maen nhw’n parhau ar y brig gyda phedair gêm yn weddill.

Dywedodd cadeirydd Clwb Criced Bronwydd, Matthew Jones wrth Golwg360: “Mae’r clwb wedi gwneud yn dda ddifrifol, ac i fod ar frig y gynghrair hefyd.

“Roedd bod yn y gwpan yn anrhydedd, ond dyna ddiwedd y daith i ni’r tymor yma.”

Ymosodiad

Yn ystod yr ornest, dioddefodd un o gricedwyr Bronwydd ymosodiad gan aelod o’r cyhoedd, ond dywedodd Matthew Jones nad yw’r clwb yn bwriadu gwneud cwyn.

Eglurodd fod criw o bobol wedi dod draw i’r cae o’r clwb cymdeithasol wedi iddyn nhw fod yn gwylio’r pêl-droed ar y teledu.

“Y criced oedd wedi ennill y dydd. Ie, roedd e’n ddigwyddiad anffodus ond dy’n ni ddim yn mynd ag e ymhellach.”

Ffrwgwd yn Sir Benfro

Daw’r digwyddiad wythnos yn unig wedi ffrwgwd rhwng chwaraewyr yn ystod gornest rhwng Saundersfoot a Chilgeti yn Ail Adran Sir Benfro.

Daeth yr ornest honno i ben yn gynnar ar ôl y ffrwgwd oedd wedi’i achosi gan chwaraewyr yn anelu sylwadau sarhaus at ei gilydd ar y cae.