Fe fydd Morgannwg yn ceisio trydedd buddugoliaeth o’r bron o fewn saith niwrnod wrth iddyn nhw groesawu Swydd Hampshire i Gaerdydd ar gyfer gornest 50 pelawd yng Nghwpan 50 pelawd Royal London ddydd Sul.

Mae Morgannwg eisoes wedi trechu Spitfires Swydd Gaint ac Eryr Swydd Essex yn y gystadleuaeth hon dros y dyddiau diwethaf diolch i ddau ganred gan y batiwr llaw chwith o Dde Affrica, Colin Ingram.

Mae Morgannwg bellach yn drydydd yng Ngrŵp B.

Ond yr ymwelwyr fu’n fuddugol yn y ddwy ornest ddiwethaf rhwng y ddwy sir yng Nghaerdydd – unwaith yn y T20 Blast a’r tro arall yn y Bencampwriaeth ddiwedd y tymor diwethaf.

Mae Swydd Hampshire wedi curo Morgannwg mewn chwech allan o’r saith ornest Rhestr A ddiwethaf, a dydy Morgannwg ddim wedi eu curo yn y fath ornest ar eu tomen eu hunain ers 2005.

Morgannwg: J Rudolph (capten), W Bragg, C Ingram, C Cooke, A Donald, D Lloyd, G Wagg, M Wallace, C Meschede, D Cosker, M Hogan

Swydd Hampshire: J Adams, M Carberry, A Wheater, J Vince (capten), L Dawson, W Smith, J Gatting, C Wood, M Crane, J Bird, F Edwards