Roedd y batiwr o Dde Affrica, Colin Ingram wedi cynnal batiad Morgannwg wrth iddyn nhw drechu Eryr Swydd Essex o 146 o rediadau yn y Swalec SSE, yn ôl y prif hyfforddwr Toby Radford.

Tarodd Ingram 130 oddi ar 144 o belenni wrth i Forgannwg osod nod o 289 i’r ymwelwyr am y fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth 50 pelawd Royal London.

Cafodd Ingram ei gefnogi gan Graham Wagg, a darodd 62 heb fod allan ar ôl dychwelyd i’r tîm yn dilyn cyfergyd yn ystod gornest T20 Blast yn erbyn Swydd Gaerloyw nos Wener diwethaf.

Ingram a osododd y seiliau ar gyfer batiad Morgannwg, wrth iddo gyrraedd ei gyfanswm unigol gorau erioed mewn gornest Rhestr A.

Dyma’i ail ganred yn olynol yn dilyn ei gyfanswm o 109 yn yr un gystadleuaeth yn erbyn Spitfires Swydd Gaint yng Nghaerdydd nos Fawrth.

Roedd ei fatiad yn cynnwys 12 pedwar ac un chwech, ac fe adeiladodd bartneriaeth o 77 am y drydedd wiced gydag Aneurin Donald (37) ac 83 am y bedwaredd wiced gyda Chris Cooke (36).

Ychwanegodd Ingram 79 gyda Graham Wagg (62 heb fod allan) am y bumed wiced cyn i’r batiwr o Dde Affrica gael ei ddal gan gapten yr ymwelwyr, Ryan ten Doeschate oddi ar fowlio Reece Topley i ddod â’i fatiad i ben.

‘Cynnal y batiad’

Dywedodd Toby Radford: “Roedd cael dau ganred gefn wrth gefn yn rhagorol, dw i’n meddwl.

“Gyda’r partneriaethau adeiladodd e drwyddi draw, fe wnaeth e gynnal y batiad – gydag Aneurin Donald a Chris Cooke, ac wedyn gyda Graham Wagg ar ddiwedd y batiad i gyrraedd 288, oedd yn gyfanswm cystadleuol iawn.

“Un peth ry’ch chi bob amser yn ei drafod gyda chriced undydd – unrhyw fath o griced, mewn gwirionedd – yw adeiladu partneriaethau. Fe wnaeth Colin ddal popeth at ei gilydd.

“Mae e’n dweud mai dyma’i hoff fformat. Mae’n amlwg wedi gwneud yn dda iawn yn hwn yn Ne Affrica, roedd e’n bositif ond yn synhwyrol, ac mae e’n taro’r bêl yn wych.

“Gyda 50 pelawd, mae ei gyflymdra’n dda iawn drwy gydol y batiad, mae ei ffordd o ddewis pryd i wthio am un rhediad a phryd i daro tua’r ffin yn wych. Weithiau mae’n anodd iawn cymryd risg mewn 20 pelawd, ond mae 50 pelawd fel pe bai’n addas ar gyfer ei arddull.”

‘Un o’r batiadau gorau’

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd Colin Ingram ei fod yn credu mai hwn oedd un o berfformiadau gorau ei yrfa gyda’r bat.

“Mae hi bob amser yn braf pan fo’r tîm yn ennill ac mae’n wych cael treulio ychydig o amser yn y canol.

“Mae gwên ar fy wyneb i ar hyn o bryd, ond mae gwaith caled o’n blaenau ni o hyd.

“Fe ddechreuodd pethau’n araf iawn ac roedd yn anodd iawn ar y dechrau gan ein bod ni wedi colli cwpwl o wicedi.

“Rhaid canmol rhai o’r bechgyn eraill ddaeth i mewn a chwarae’n bositif, hyd yn oed o dan yr amgylchiadau hynny.

“Roedd hynny wedi fy ngalluogi i fatio drwodd a bod yn angor. O hynny ymlaen, fe lifodd pethau’n well ac fe wnes i fwynhau ma’s draw. Dw i’n credu mai hwn oedd un o’r batiadau gorau dw i wedi’i gael.

“Fe gawson ni ambell bartneriaeth oedd wedi helpu’n momentwm ni. Pan y’ch chi’n treulio amser yn y canol, mae’n dod yn haws wedyn ac ry’ch chi’n dechrau darogan y llain.

“Fe wnes i fwynhau treulio amser allan yno ac mae’r diwrnodau diwethaf wedi bod yn wych.”