Y batiwr o Dde Affrica, Colin Ingram oedd y seren i Forgannwg wrth iddyn nhw guro Eryr Swydd Essex o 146 o rediadau yng nghwpan 50 pelawd Royal London yn y Swalec SSE.

Tarodd Ingram 130 oddi ar 144 o belenni wrth i Forgannwg osod nod o 289 i’r ymwelwyr am y fuddugoliaeth.

Cafodd Ingram ei gefnogi gan Graham Wagg, a darodd 62 heb fod allan ar ôl dychwelyd i’r tîm yn dilyn cyfergyd yn ystod gornest T20 Blast yn erbyn Swydd Gaerloyw nos Wener diwethaf.

Wrth gwrso nod digon heriol, roedd yr ymwelwyr yn 48-4 erbyn diwedd y ddau gyfnod clatsio cyntaf, ac roedd yn dalcen caled iddyn nhw o hynny ymlaen wrth iddyn nhw golli’r chwe wiced olaf am 102 o rediadau.

Crynodeb

Ingram a osododd y seiliau ar gyfer batiad Morgannwg, wrth iddo gyrraedd ei gyfanswm unigol gorau erioed mewn gornest Rhestr A.

Dyma’i ail ganred yn olynol yn dilyn ei gyfanswm o 109 yn yr un gystadleuaeth yn erbyn Spitfires Swydd Gaint yng Nghaerdydd nos Fawrth.

Roedd ei fatiad yn cynnwys 12 pedwar ac un chwech, ac fe adeiladodd bartneriaeth o 77 am y drydedd wiced gydag Aneurin Donald (37) ac 83 am y bedwaredd wiced gyda Chris Cooke (36).

Ychwanegodd Ingram 79 gyda Graham Wagg (62 heb fod allan) am y bumed wiced cyn i’r batiwr o Dde Affrica gael ei ddal gan gapten yr ymwelwyr, Ryan ten Doeschate oddi ar fowlio Reece Topley i ddod â’i fatiad i ben.

Roedd batiad Wagg yntau’n cynnwys pum pedwar a thri chwech, a hynny wrth iddo ddychwelyd i’r tîm ar ôl dioddef cyfergyd yn yr ornest T20 yn erbyn Swydd Gaerloyw nos Wener diwethaf.

Reece Topley a David Masters oedd y ddau fowliwr oedd wedi sefyll allan i’r ymwelwyr, y naill yn cipio tair wiced am 51, a’r llall yn cadw ei gyfradd economi i 3.90 y belawd.

Wrth gwrso’r nod o 289 i ennill, fe gollodd yr ymwelwyr dair wiced o fewn yr wyth belawd gyntaf am 16 rhediad, wrth i Wagg gipio dwy, a’r llall wedi’i chipio gan Michael Hogan.

Roedd Swydd Essex yn 48-4 erbyn diwedd y bymthegfed pelawd, ac roedd yr ornest i bob pwrpas eisoes ar ben, a’r ymwelwyr yn ceisio cyrraedd cyfanswm parchus.

Ond parhau i gwympo wnaeth y wicedi, ac roedd Swydd Essex yn 86-6 ar ôl hanner eu pelawdau.

Roedd cwymp y seithfed wiced gyda 100 ar y bwrdd yn golygu bod dau o brif glatswyr yr Eryr, Ryan ten Doeschate a Graham Napier wedi dod at ei gilydd wrth y llain.

Partneriaeth o 27 yn unig gafodd y ddau wrth i Dean Cosker ddarganfod coes ten Doeschate o flaen y wiced, ac yntau wedi sgorio 47.

Roedd David Masters yn dynn ar sodlau ten Doeschate, wrth i Will Bragg ei ddal oddi ar fowlio Ingram ac fe wnaeth Morgannwg gau pen y mwdwl ar y gêm wrth i Craig Meschede ddal ar ei afael ar y bêl i waredu Graham Napier oddi ar fowlio Cosker.

Roedd yn berfformiad campus gan y bowlwyr, wrth iddyn nhw rannu’r wicedi rhyngddyn nhw, ond Colin Ingram gafodd ei enwi’n seren ddisgleiria’r gêm.