Mae batiwr Morgannwg, Colin Ingram wedi taro 130 oddi ar 144 o belenni wrth i Forgannwg gyrraedd 288-6 yn erbyn Swydd Essex yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yn y Swalec SSE.

Ingram a osododd y seiliau ar gyfer batiad Morgannwg, wrth iddo gyrraedd ei gyfanswm unigol gorau erioed mewn gornest Rhestr A.

Dyma’i ail ganred yn olynol yn dilyn ei gyfanswm o 109 yn yr un gystadleuaeth yn erbyn Spitfires Swydd Gaint yng Nghaerdydd nos Fawrth.

Roedd ei fatiad yn cynnwys 12 pedwar ac un chwech, ac fe adeiladodd bartneriaeth o 77 am y drydedd wiced gydag Aneurin Donald (37) ac 83 am y bedwaredd wiced gyda Chris Cooke (36).

Ychwanegodd Ingram 79 gyda Graham Wagg (62 heb fod allan) am y bumed wiced cyn i’r batiwr o Dde Affrica gael ei ddal gan gapten yr ymwelwyr, Ryan ten Doeschate oddi ar fowlio Reece Topley i ddod â’i fatiad i ben.

Fe fydd gan yr ymwelwyr nod o 289 i sicrhau’r fuddugoliaeth.