Aaron Ramsey yn dathlu sgorio dros Arsenal tymor diwethaf (llun: AP/Emrah Gurel)
Mae Cymru wedi arfer bellach â gweld Gareth Bale yn serennu ar lwyfan pêl-droed Ewropeaidd – ond un arall o sêr y tîm cenedlaethol sydd wedi cipio’r sylw yn un o’r gwobrau blynyddol eleni.

Yr wythnos hon fe agorodd UEFA bleidlais ar eu gwefan i ddewis y gôl orau yn Ewrop yn ystod tymor 2014/15 – gydag ergyd wefreiddiol Aaron Ramsey yn un o ddeg ar y rhestr fer.

Sgoriodd y Cymro o Gaerffili’r ymdrech hyfryd ym mis Rhagfyr llynedd wrth i’w dîm e, Arsenal, drechu Galatasaray o 4-1 yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Ar ôl y gêm fe ddisgrifiodd Ramsey’r gôl fel ei un “orau erioed” – dyma’ch atgoffa chi o’r ergyd:

Ronaldo a Messi

Mae Ramsey mewn cwmni breintiedig ar restr fer y wobr eleni gyda seren Barcelona, Lionel Messi, ac ymosodwr disglair Real Madrid, Cristiano Ronaldo, hefyd wedi’u henwebu.

Ymysg yr enwau eraill mae ambell chwaraewr adnabyddus arall fel Neymar o Barcelona, Kevin de Bruyne o Wolfsburg ac Erik Lamela o Spurs.

Mae goliau gan Antunes i Dynamo Kyiv, Vasyl Kobin i Metalist Kharkiv, Robbie Muirhead i dîm dan-19 yr Alban ac Abdulai Toloba i dîm merched dan-19 Gwlad Belg hefyd ar y rhestr.

Mae modd pleidleisio am y gôl orau ar wefan UEFA, gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 27 Awst.