Chris Cooke oedd arwr Morgannwg wrth iddo daro 94 heb fod allan oddi ar 54 o belenni i helpu’r Cymry i guro Swydd Gaint o dair wiced yng nghwpan 50 pelawd Royal London yn y Swalec SSE.

Roedd y seiliau eisoes wedi’u gosod gan Colin Ingram, wrth iddo daro 109 yn gynharach yn y batiad, i helpu Morgannwg i gyrraedd y nod o 318.

Darren Stevens oedd prif sgoriwr Swydd Gaint wrth iddo daro 110 oddi ar 64 o belenni wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 317-7 oddi ar eu 50 pelawd.

Crynodeb

Roedd batiad Stevens yn cynnwys naw pedwar a chwech chwech wrth i Forgannwg gael trafferth atal y llif rhediadau drwy gydol y batiad.

Ond roedd y seiliau ar gyfer y batiad eisoes wedi’u gosod cyn i Stevens ddod i’r llain, wrth i Sam Billings (56) a Sam Northeast (74) adeiladu partneriaeth o 104 am y drydedd wiced.

Cyn hynny, roedd yr ymwelwyr wedi colli eu dwy wiced gyntaf am 54 o fewn deuddeg pelawd, wrth i Ruaidhri Smith a Craig Meschede gipio wiced yr un.

Roedd Swydd Gaint yn 67-2 erbyn diwedd y bymthegfed pelawd, ac fe gyrhaeddon nhw’r cant erbyn diwedd yr unfed belawd ar hugain wrth i Billings a Northeast gyrraedd eu cerrig milltir personol o hanner canred yr un.

Cymaint oedd y pwysau ar Forgannwg yn ystod batiad Swydd Gaint nes bod rhaid iddyn nhw aros tan belawd rhif 34 i fowlio’u pelawd ddi-sgôr gyntaf, a honno wedi’i bowlio gan y troellwr llaw chwith Dean Cosker.

Ildiodd Morgannwg eu chwech cyntaf yn y belawd nesaf, wrth i Darren Stevens daro’r troellwr Colin Ingram dros y ffin.

Roedd carreg filltir bersonol i wicedwr Morgannwg yn niwedd y batiad, wrth iddo ddal ei afael ar y bêl oddi ar fowlio Smith i gipio wiced Alex Blake – 1,000fed daliad neu stympiad i Forgannwg ym mhob fformat.

Wrth i’r rhod ddechrau troi yn y pelawdau olaf, fe gipiodd yr Awstraliad Michael Hogan ddwy wiced mewn dwy belen, wrth i Cosker gael dau ddaliad i waredu Stevens am 110 a Fabian Cowdrey am 22.

Sgoriodd Swydd Gaint 99 o rediadau yn y deg pelawd olaf i gyrraedd 317-7, oedd yn gyfanswm hael ar lain oedd yn fwy addas ar gyfer y bowlwyr – dim ond maesu gwael oedd yn sefyll rhwng Morgannwg a nod gymharol ddi-nod.

Pedwar rhediad yn unig oedd ar y sgorfwrdd i Forgannwg cyn i Swydd Gaint gipio’u wiced gyntaf.

Jacques Rudolph oedd y dyn cyntaf allan, a hynny heb sgorio, wrth iddo ddarganfod menyg y wicedwr Sam Billings oddi ar fowlio Matt Coles.

Ond daeth achubiaeth ar ffurf record o bartneriaeth ail wiced rhwng Colin Ingram a Will Bragg.

Fe darodd y ddau ergyd ar ôl ergyd i’r ffin i arwain Morgannwg i 61-1 erbyn diwedd y degfed pelawd, sef y cyfnod clatsio cyntaf.

Cyrhaeddodd Ingram ei hanner canred oddi ar 47 o belenni ac erbyn hynny, roedd e wedi taro wyth pedwar ac un chwech.

Roedd y batwyr wedi adeiladu partneriaeth o gant erbyn diwedd yr ail belawd ar hugain wrth i Forgannwg gyrraedd 105-1.

Cyrhaeddodd Bragg ei hanner canred oddi ar 69 o belenni mewn batiad oedd wedi cynnwys saith pedwar erbyn hynny.

Ond daeth y bartneriaeth a barodd 26 o belawdau i ben  wrth i Bragg (59) ddarganfod dwylo’r bowliwr Ivan Thomas wrth geisio gyrru’n syth i lawr y llain, a Morgannwg bellach yn 136-2.

Deuddeg o rediadau’n unig ychwanegodd capten tîm Lloegr dan 19, Aneurin Donald cyn iddo gam-ergydio dros ei ysgwydd yn syth i ddwylo Daniel Bell-Drummond oddi ar fowlio Mitch Claydon, a Morgannwg bellach yn 156-3 oddi ar 33 o belawdau.

Cyrhaeddodd Ingram ei ganred oddi ar 100 o belenni – mewn batiad oedd yn cynnwys 11 pedwar ac un chwech hyd hynny – wrth iddo ddechrau adeiladu partneriaeth gyda’r batiwr newydd Chris Cooke.

Ond buan y dychwelodd Ingram i’r pafiliwn yn sgil daliad gorau’r ornest, wrth i’r wicedwr Sam Billings neidio’n uchel uwch ei ben i ddal ei afael ar fownsar gan Matt Coles â’i law chwith, a’r batiwr wedi sgorio 109 wrth i Forgannwg gyrraedd 197-4.

Erbyn i Forgannwg gyrraedd 213, roedden nhw wedi colli’u pumed wiced wrth i Billings stympio Craig Meschede wrth iddo ddawnsio i lawr y llain wrth geisio’r ergyd fawr, a Stevens (1-38) wedi cipio’i wiced gyntaf.

Daeth y glaw pan oedd Morgannwg yn 223-5, 95 rhediad yn brin o’r nod a 7.4 pelawd yn weddill, ond fe ddychwelodd y chwaraewyr i gwblhau’r ornest o fewn chwarter awr, heb fod yr un belen wedi’i cholli.

Collodd Mark Wallace ei wiced am 1 yn y belawd gyntaf wedi’r toriad, wrth i gapten yr ymwelwyr ddal ei afael ar y bêl oddi ar fowlio Matt Coles, a Morgannwg yn llithro i 224-6 wrth i David Lloyd ddod i’r llain.

Er hynny, roedd pelawd rhif 44 yn un dda i Forgannwg wrth iddyn nhw sgorio 20 rhediad oddi ar fowlio’r troellwr James Tredwell.

Roedd y momentwm gyda Morgannwg yn y belawd nesaf hefyd wrth i Ivan Thomas ildio chwech oddi ar belen anghyfreithlon, a’r nod bellach yn 57 oddi ar 30 o belenni.

Fe gafodd Cooke ei ddal gan y bowliwr Thomas oddi ar belen anghyfreithlon yn ystod pelawd rhif 47, ac fe gafodd ei alw’n ôl i’r llain ar 53 heb fod allan.

Ond fe fu’n rhaid i David Lloyd ddychwelyd i’r pafiliwn yn fuan wedyn wrth iddo ddarganfod dwylo Bell-Drummond ar y ffin ar ochr y goes oddi ar fowlio Thomas, a Morgannwg bellach yn 278-7.

Ond Chris Cooke a Ruaidhri Smith oedd wrth y llain wrth i Forgannwg sicrhau’r fuddugoliaeth o saith wiced i roi hwb i’r Cymry cyn ymweliad Swydd Essex â Chymru nos Wener.

Seren yr ornest

Batiwr Morgannwg, Chris Cooke gafodd ei enwi’n seren yr ornest  gan Sky Sports am ei fatiad o 94 heb fod allan, ac fe ddaw’r wobr yn dilyn cyfnod o alaru i’r chwaraewr yn sgil marwolaeth ei gefnder yn Ne Affrica yn ddiweddar.

Dywedodd wrth Golwg360: “Roedd yn amlwg yn gyfnod anodd yn bersonol, ond mae’r clwb wedi bod yn ffantastig a’r bois yn wych. Mae’n dda cael dychwelyd.

“Yn bersonol, mae’n dda cael cyfrannu at y fuddugoliaeth fel yna ond mae cwrso 30 yn ymdrech lew gan y tîm i gyd.

“Fe wnaethon ni i gyd chwarae ein rhan ond roedd yn dipyn o fatiad gan Colin Ingram ar y dechrau, ac fe osododd hynny’r llwyfan i ni’r clatswyr i ddod i mewn ar y diwedd.

“Mae 300 yn gyfanswm arferol mewn 50 pelawd felly dw i’n credu y byddwn ni’n gweld nifer o gemau lle bydd timau’n cwrso 300 yn y gystadleuaeth hon.

“Doedd gyda ni ddim i’w golli – dydy dau rediad oddi ar bob pelen ddim yn anghyffredin iawn. Y ffordd roedd yr ornest yn mynd, roedden ni ar y droed ôl ac felly fe ddaethon ni allan gyda rhyddid a rhoi cynnig arni.”