Gruff Rhys
Bydd trydydd tymor National Theatre Wales yn cynnwys gig ar daith gyda Gruff Rhys a Boom Bip.

Byddan nhw hefyd yn llwyfannu pedwar cynhyrchiad preswyl newydd gan awduron Cymreig- yng Nghaerdydd, Japan, Ynys Môn ac yn Nhreorci – ac addasiad o Terry Jones o lyfr plant Tylwyth Teg.

Bydd Gruff Rhys a Boom Bip – sydd wedi gweithio gyda’i gilydd ar yr albwm cysyniadol Neon Neon yn 2008 – yn mynd ar daith gyda ‘Praxis Makes Perfect’ sydd wedi cael ei ysgrifennu gan Tim Price wnaeth sgwennu Y Pris ar S4C.  Mae’r sioe roc wedi cael ei selio ar fywyd y cyhoeddwr ac ymgyrchydd gwleidyddol, Giangiacomo Feltrinelli.

Dros y Nadolig, bydd Castell Caerdydd yn gartref i ‘Silly Kings’ gan Terry Jones o Monty Python. Bydd y cynhyrchiad i blant, ac oedolion, wedi cael ei selio ar lyfr o straeon Tylwyth Teg.

A bydd pedwar sioe breswyl yn cael eu hysgrifennu gan awduron Cymreig. Mae’r rhain yn cynnwys:

De Gabay – perfformiad un dydd o gwmpas ardal Butetown yng Nghaerdydd sy’n edrych ar fywyd pedwar bardd Somali a’r cenedlaethau a ddaeth o’u blaenau. Mae’r sioe wedi cael ei hysgrifennu gan feirdd Somali o Gaerdydd a bydd yn cynnwys perfformiadau gan bobl leol.

The Opportunity of Efficiency – Perfformiad rhyngwladol cyntaf y National Theatre Wales a’r cydweithrediad cyntaf gyda chwmni theatr o dramor. Bydd y ddrama yn cael ei pherfformio mewn Siapanaeg ac yn cael ei llwyfannu yn Tokyo ym mis Ebrill.

Things I Forgot I Remembered – Sioe aml-blatfform sy’n gweld Hugh Hughes yn dod adref i Ynys Mon am y tro cyntaf ers blynyddoedd gyda theithiau cerdded clywadwy o gwmpas yr ynys yn adrodd ei atgofion.

Tonypandemonium – drama gyntaf yr awdur Rachel Trezise sy’n edrych ar berthynas merch yn ei harddegau a’i mam alcoholig.

‘Y gorau o dalent Cymru’

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales, John McGrath: “Mae pawb yn National Theatre Wales yn edrych ymlaen yn fawr i lansio ein trydedd flwyddyn o waith. Gyda phrosiectau yn amrywio o’n perfformiad cyntaf yn Tokyo i’n preswyliad yn Ynys Môn ac yn Nhreorci, i feddiannu Castell Caerdydd dros gyfnod y Nadolig, rydym yn cloddio’n dyfnach ac yn teithio’n bellach nag erioed o’r blaen.

“A gydag artistiaid yn amrywio o Gruff Rhys  i Terry Jones i Rachel Trezise, gallwn unwaith eto addo’r gorau o dalent Cymru i gynulleidfaoedd Cymreig a rhyngwladol.”