Mae Pantomeim blynyddol Theatr Felinfach yn un o uchafbwyntiau’r calendr blynyddol yng Ngheredigion, a thu hwnt.

Tom, Kom ar y Comin ydy teitl y panto eleni, a bu Gwenann Jones draw i Felinfach ar ran Golwg360 i gwrdd â rhai o aelodau’r cast wrth iddynt baratoi ar gyfer y perfformiad agoriadol.

Mae panto Rom, Kom ar y Comin yn cael ei berfformio yn Theatr Felinfach rhwng 8 a 15 Rhagfyr.