Gyda thaith ein cynhyrchiad diweddaraf yng Nghwmni’r Frân Wen ‘Hawl’ yn dechrau heno – roeddwn i’n awyddus i wybod beth mae ‘Hawl’ yn ei olygu i bobl yng Nghymru heddiw.

Rydan ni’n clywed am hawliau fyth a beunydd, mewn papurau newydd, ar raglenni newyddion a thrwy ymgyrchoedd gwahanol elusennau. Ond, beth olyga ‘Hawl’ i wahanol unigolion yma yng Nghymru heddiw?

Dros y mis nesaf, i gyd-fynd â’n cynhyrchiad diweddaraf – mi fyddwn ni’n cyhoeddi ymateb trawstoriad o enwogion i’r cwestiwn hwn.  Mi fyddwn ni’n rhannu’r ymatebion ar ein blog, ein gwefan Twitter a Facebook. Bwriad yr ymgyrch yw cymell pobl i feddwl am hawliau yn ystod ein taith.

Mae ‘Hawl’ gan Iola Ynyr yn gynhyrchiad gwleidyddol sy’n sôn yn bennaf am hawliau dynol. Mae’n brofiad theatrig aml-synhwyrus  fydd yn annog unigolion i ailystyried effaith grym gwladwriaethau ar hawliau sylfaenol unigolion bregus.

Ond wrth ofyn y cwestiwn yma wrth unigolion yng Nghymru heddiw, roeddwn i eisiau i bobl fod yn greadigol gan feddwl am ‘hawliau’ ym mha bynnag ffordd sy’n berthnasol iddyn nhw yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Dyw ‘hawl’ ddim yn golygu’r un peth i bawb ac mae’r ymatebion,  fel y disgwyl  – wedi bod yn hynod amrywiol a difyr.

Wnes i addewid ar wefan Twitter yn gynharach heddiw y byddwn i’n cyhoeddi ymateb Bethan Gwanas i’r ymgyrch ar y blog hwn  – felly dyma ni:

“Mae rhai’n mynnu bod eu hawliau nhw’n bwysicach na hawliau eraill. Mae rhai’n meddwl bod ganddyn nhw’r hawl i fwynhau bywyd ar draul pobl eraill. Mae gen i’r hawl i anghytuno.”

Bethan Gwanas

Dyma flas o’r ymatebion eraill:

“Dylai pawb fynnu eu hawliau, a’i briodi bob amser efo cyfrifoldeb” – Dafydd Iwan

“Ma’ gen i hawl i beidio tyfu mwsdash adeg Tashwedd, ond dw i’n gado y byswn i’n gallu…” – Griff Lynch

“Nid gwobr, nid buddugoliaeth, nid amod yw hawl, ond haeddiant… haeddiant na ddylid ei gam-drin yr un fordd na’r llall” – Caryl Parry Jones

“Hawl yw’r hyn sy’n foesol ddyledus i ni mewn bywyd. Prin ddylai rhywun orfod gofyn am yr hyn sy’n hawl iddo, ond weithiau, rhaid brwydro.” – Rhun ap Iorwerth

“Mae gan bawb yr hawl i fod yn nhw eu hunain, a neb arall. A does gan neb arall yr hawl i beidio â derbyn hynny” – Stifyn Parri

Mi fedrwch chi bori drwy’r holl ymatebion ar ein blog http://franwen.tumblr.com/

Mi fedrwch chi hefyd rannu eich syniadau chi gan gyfrannu i’r ymgyrch ar ein gwefan Twitter @cwmnifranwen.

Mae holl fanylion cynhyrchiad ‘Hawl’ ar ein gwefan www.franwen.com

Gan Malan Wilkinson