Theatr y Borough
Eleanor Johnson sy’n adolygu’r ddrama ‘These Foolish Things’ gan Liz Pearce a berfformiwyd yn Theatre y Borough, Y Fenni ar ddechrau mis Hydref.

Anodd iawn fyddai chwilio am  bortread mwy dwys o fywyd y cymoedd, na chynhyrchiad Liz Pearce, ‘These Foolish Things’.

Mae’r ddrama hon yn arwain y gynulleidfa ar daith emosiynol trwy fywydau casgliad o gymeriadau lliwgar, wrth iddynt rannu eu hymdrechion i roi’r gorau i ysmygu.

Mae unigolion y dref ddychmygol, Abercwm, yn cynnwys, ymysg eraill, Nicky Nomad – canwr lleol, steil Elvis – efo’i fŵts cowboi, a’i wallt gwyn wedi’i gwiffio’n benderfynol; Kath, fersiwn benywaidd Kevin y plastrwr, sydd efo ffetish braidd am stiletos coch ar y penwythnosau; a charcharwraig ddeheuol, dienw, sy’n darganfod ei hun yn y clinc am roi ‘un yn y chops’ i Sais a fentrodd chwifio’i faner Lloegr mewn gêm rygbi.

Maent i gyd yn adrodd eu storiâu, mewn grŵp lleol sy’n cefnogi pobol sy’n stopio ‘smygu.

Disgrifir ‘y ffags’ gydag angerdd, cywilydd a chwant, bron fel cariad gwaharddedig. Ond daw’n glir taw esgus i ddod at ei gilydd yw’r ‘smygu – rheswm i rannu eu los, eu breuddwydion.

Mae’r nòd o roi’r gorau i’r sigarennau yn troi’n drosiad am newid, dechreuon newydd a gollwng gafael ar y gorffennol.

Trwy gydol y perfformiad clywir caneuon hiraethus y 50au, sy’n creu atmosffer clwb jazz myglyd, gyda’r sacsoffon yn ychwanegu difrifoldeb i’r chwedlau opera sebon hyn, sy’n trawsffurfio’n bortreadau teimladwy o freuder y dynol ryw.

Gweler ysgafnder, hiwmor ac unigrwydd diobaith oll ym mhob un o’r portreadau gwefreiddiol a roddir gan y cast.

Yn wir, y cyfuniad o wander a grym ym mhob un o’r cymeriadau sy’n gwneud y ddrama hon mor llwyddiannus.

Eleanor Johnson