Helen Mirren a Julie Walters oedd sêr fersiwn ffilm Calendar Girls.
Cerian Griffiths sy’n trafod drama theatr enwog fydd i’w gweld am y tro cyntaf yn y Gymraeg yn fuan iawn.
Rŵan fy mod i wedi tynnu eich sylw…. Mae 15 o actorion dewr, profiadol a dibrofiad sy’n amrywio mewn oedran o 24 i 70 yn barod i dderbyn yr her o lwyfannu Genod y Calendr yn Theatr Fach Llangefni ddiwedd Medi. Addasiad Marlyn Samuel o Calendar Girls gan Tim Firth drwy ganiatâd caredig Samuel French ltd, yw’r cynhyrchiad hwn.
Wedi deunaw mis o drafod cafwyd caniatâd i ryddhau’r hawlfraint ar gyfer llwyfannu’r perfformiad cyntaf erioed o “Calendar Girls” drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cafodd Catrin Jones Hughes, y cynhyrchydd sydd  hefyd yn actio yn y ddrama, ei hysgogi  i lwyfannu’r ddrama wedi colled aelod o’r teulu i gancr. Y mae’r ddrama hon yn deyrnged i Alan Thomas ac i’r holl bobl sy’n brwydro’n ddewr yn erbyn cancr.
Uniaethu
“Mae hi’n stori dda. Mae hi’n dilyn straeon criw o ferched, criw o ffrindiau a bydd y gynulleidfa yn gallu uniaethu a’r cymeriadau,” meddai Catrin Jones Hughes.
Mae’r fersiwn yma’n ddrama wahanol i’r ffilm, oherwydd ei bod yn canolbwyntio fwy ar gyfeillgarwch y merched a’i gilydd.
Cawn  fewnwelediad i fywydau merched y WI. Mae gan bob cymeriad ei stori bersonol. Gwreiddyn y plot yw hanes go iawn criw o ferched y WI yn casglu arian ar gyfer prynu soffa newydd i ystafell aros yn yr ysbyty leol drwy greu calendr ohonynt yn noeth.
Gobaith Catrin Jones Hughes yw y bydd cast Theatr Fach Llangefni hefyd yn mynd ati i greu calendr!
Y mae hi’n ddwy awr o ddrama gydag egwyl, ac yn ddrama llawn elfennau digri a dwys a chyfeiriadau lleol.
Mae hi’n ddrama sy’n drwm iawn o ran cynifer o brops a gwisgoedd ac o bosib yr ail gynhyrchiad mwyaf i Theatr Fach ei lwyfannu wedi Death of a Salesman fod yn llwyddiant ysgubol i’r Theatr. Mae’r criw yn brysur iawn yn ymarfer yn wythnosol ar gyfer y cynhyrchiad a hyd yn oed wedi derbyn hyfforddiant ‘Tai Chi’ sef ymarferion ymlaciol ar gyfer y ddrama.
Mae’r ddrama’n cael ei llwyfannu rhwng 26 a 29 Medi am 7.30y.h.  Mae hi’n addas ar gyfer plant o 9-10 oed hyd at bobl 90 oed.
Rhoddir cyfraniad tuag at y Samanatha Dixon Trust ac ymchwil i Leukemia a lymphoma. Hoffai’r theatr ddiolch i gwmnïau Huws Gray a Mona lifting am eu noddi.