Mae swydd academaidd enillydd y Fedal Ddrama wedi cael rhywfaint o ddylanwad ar ei ddarn buddugol.

Enillodd Gareth Evans-Jones y brif wobr ar dydd Iau (Awst 8) am ei ddarn Adar Papur a gafodd ganmoliaeth hael gan feirniaid.

Tra’n siarad gyda golwg360 mae’r darlithydd Athroniaeth a Chrefydd o Brifysgol Bangor yn dweud bod ei faes wedi cael rhywfaint o effaith ar ei waith.

“Dw i’n mwynhau meddwl am sut mae pobol yn bihafio ac yn ymwneud â’i gilydd,” meddai.

“Wrth gwrs, beth yw athroniaeth yw ideoleg neu ffordd o feddwl.

“A dyna sy’n llywio sut mae cymeriadau yn ymddwyn, a sut mae pobol hefyd yn ymddwyn. Felly, amwn i fod ‘na ddylanwad felly.”

Yr adar papur

Mae yna ddau brif gymeriad yn Adar Papur – Iwan a Sara – yn ogystal â thrydydd cymeriad llai amlwg, mam Iwan.

Yn siarad â’r wasg mae Gareth Evans-Jones yn dweud bod y prif gymeriadau yn wynebu sefyllfaoedd “digon anodd”, ac fel “adar papur”.

“Maen nhw’n llawn cymhlethdodau fel plygiadau adar papur ond yn frau hefyd fel papurau,” meddai.

“Dyna sut oedd y ddrama yn archwilio eu cymhlethdodau a’u breuder hefyd.”