Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi cyflwyno rhaglen hir ac amrywiol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae Eisteddfod eleni yn nodi 15 mlynedd o gynyrchiadau ac felly 15fed blynedd yn olynol i’r theatr fod yn rhan ohoni.

Eleni mae Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Arwel Gruffydd, yn dweud sut mae’r rhaglen “yn dathlu’r holl elfennau sy’n annatod i waith ein theatr.”

Ymhlith rhai o’r dramâu newydd sydd ar y Maes eleni mae Bachu, gan Melangell Dolma, sydd wedi derbyn cryn sylw hyd yn hyn.

Mae’r ddrama wedi cael ei chreu o dan faner Theatr Gen Creu, sydd wedi rhoi cyfle i ddau ddramodydd ifanc – Rhydian Gwyn Lewis a Melangell Dolma – i weld eu dramâu ar lwyfan broffesiynol am y tro cyntaf.

“Hwyl, chwerthin, a dagrau”

“Drama ydu Bachu sydd wedi cael ei ysgrifennu yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod,” meddai Arwel Gruffydd wrth golwg360.  

“Stori ydi hi am gwpwl ifanc yn ceisio ‘bachu’ am fachgen a merch yn yr Eisteddfod a Maes B. Ond mae’r cwpwl yn ddau sydd wedi bod yn gwpwl yn y gorffennol a wedi gwahanu.

“Y stori yn yr Eisteddfod ydi a ydyn nhw am ddod yn ôl at ei gilydd neu beidio. Felly mae ‘na lot o hwyl, lot o ddagrau, a mwy o chwerthin wrth ddod o’i hyd i’w gilydd unwaith eto.”

Mae Bachu wedi cael eu hysgrifennu gan Melangell Dolma a’i chyfarwyddo gan Sarah Bickerton. Mae hi’n cael ei chwarae gan Judith Humphreys, Mared Jarman, a Cellan Wyn.

Mae cyfle i weld y ddrama ar ddydd Mawrth (Awst 6) a dydd Mercher (Awst 7) am 7.30, neu am 12.30 ddydd Iau (Awst 8) yng Nghaffi Maes B.