Fe fydd mwy o gomedi Cymraeg i’w weld yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth fis nesaf. Bydd wyth sioe i gyd rhwng Mai 3-5.

Bydd sesiwn ddrama Protest Fudr ar nos Wener (Mai 3), a honno dan arweiniad cwmni Dirty Protest.

Mae Tudur Owen (Parablu) ac Elis James (Gwaith Mewn Llaw) ymhlith y prif atyniadau ar y dydd Sadwrn (Mai 4).

Mae’r sioe gyfieithu hynod boblogaidd yn dychwelyd ar y dydd Sul (Mai 5), ochr yn ochr â sesiwn Lleisiau Newydd gyda Sarah Breese, sesiwn Hen Ffrindiau yng ngofal Esyllt Sears ar y dydd Sadwrn (Mai 4), sioe ddeuawd gydag Esyllt Sears a Sian Harries ar y nos Sul.

Bydd sesiwn Comedi i Blant (Clwb Carco) gydag Esyllt Sears, Eleri Morgan a Sarah Breese brynhawn dydd Sul.