Mae canolfan Pontio Prifysgol Bangor wedi derbyn gwobr arbennig ar achlysur pen-blwydd Gwobrau’r Ymddiriedolaeth Ddinesig yn 60 oed.

Derbyniodd y ganolfan y wobr mewn digwyddiad yn amgueddfa’r Imperial War Museum North yn ardal Trafford ym Manceinion ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Mae’r ymddiriedolaeth yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd pensaernïaeth, tirlun a dylunio trefol wrth geisio gwella’r amgylchedd.

Roedd Pontio ymhlith 49 o enillwyr allan o 240 o geisiadau yn rhyngwladol, gyda’r wobr yn cael ei rhoi gan aseswyr pensaernïol a dylunwyr.

Cydnabyddiaeth

Cafodd y cais ei gyflwyno gan gwmni pensaernïol Grimshaw.

“Mae’n bleser gennym dderbyn y gydnabyddiaeth yma am brosiect Pontio,” meddai Kirsten Lees, sy’n bartner gweithredol yn y cwmni.

“Mae’r ganolfan yn ‘pontio’ yn gorfforol gampws uchaf a champws isaf y Brifysgol drwy drefn risiog o derasau cyhoeddus sy’n cysylltu ac yn llifo mewn i stryd fewnol.

“Mae’r stryd yma’n deillio o’r cysylltiad gweledol newydd rhwng y Borth Goffa o’r 1920au drwodd i adeilad cofrestredig trawiadol Gradd 1 prif adeilad y celfyddydau.”

Cyfleusterau

Mae cyfleusterau’r ganolfan yn cynnwys nifer o ardaloedd perfformio mewnol ac allanol, gan gynnwys theatr hyblyg 490 sedd, sinema a theatr stiwdio.

Mae yno ddarlithfa hefyd i 500 o bobol ar ben y theatr hyblyg.

Mae hefyd gofodau dysgu cymdeithasol, undeb y myfyrwyr y brifysgol, gofod arloesi ar gyfer dylunio a chreu, yn ogystal â llefydd bwyd a diod.

‘Lle arbennig yng nghalon y gymuned’

“Ein bwriad wrth ddatblygu’r prosiect yma oedd darparu i’r Brifysgol ac i’r gymuned leol ganolfan broffesiynol o’r radd flaenaf fyddai’n dyfnhau ein cyfraniad at weithgareddau artistig a diwylliannol yr ardal a’n hymgysylltiad â’r gymuned leol, yn cyfrannu at adfywiad y ddinas ac yn adeiladu ar y berthynas rhwng ein hacademyddion a’n cymunedau lleol, yn ogystal â darparu pwynt mynediad i’r Brifysgol yn ehangach,” meddai ‘r Athro Jerry Hunter, dirprwy is-ganghellor Prifysgol Bangor.

“Mae’n bleser gennym dderbyn y wobr yma,” meddai Elen ap Robert, cyfarwyddwr artistig Pontio.

“Mae’n amlwg o’r niferoedd sy’n dod yma, fel aelod o’r gynulleidfa neu i gymryd rhan, fod Pontio wedi cymryd ei lle yng nghalonnau llawer o’r gymuned leol.

“Mae’r wobr hon, felly, heyd yn deyrnged i’r rhai sydd wedi bod yn rhan o siwrne Pontio ac sydd wedi dod i’r adeilad i ymwneud â’r gweithgareddau ers iddi agor.”