Mae’r digrifwr, Billy Connolly, wedi cyfaddef ei fod yn nesu at ddiwedd ei fywyd, a bod pethau’n “llithro” o’i afael wrth iddo fyw gydag afiechyd Parkinson.

Fe gafodd y diagnosis yn 2013, ac mae’n trafod y cyflwr yn ail ran y rhaglen ddogfen ar ei fywyd, Made In Scotland ar y BBC nos fory (dydd Gwener, Ionawr 4).

“Mae fy mywyd yn llithro o’m gafael, fe alla’ i deimlo hynny… Dw i’n 75 oed (adeg y ffilmio, mae’n 76 erbyn hyn). Dw i’n agos i’r diwedd. Dw i’n llawer agosach at y diwedd nag at y dechrau. Ond dydi hynny ddim yn fy nychryn i. Mae’n antur, ac mae’n reit ddiddorol i mi weld fy hun yn llithro…

“Wrth i rannau ohona’ i beidio â bod, wrth i dalentau a galluoedd fy ngadael… Does gen i ddim y balans oedd gen i rai blynyddoedd yn ôl… does gen i ddim yr egni na’r gallu i glywed. Alla’ i ddim gweld pethau mor dda ag o’n i’n arfer… A does gen i ddim y cof oedd gen i ers talwm.

“Mae’n union fel petai rhywun arall mewn rheolaeth ohona’ i, a’u bod nhw’n dweud ‘Fe roddais i’r holl bethau hyn i ti pan oeddet ti’n ifanc, ond dw i’n eu tynnu nhw’n ôl nawr’.”

Fe gafodd Billy Connolly ei eni a’i fagu yn ninas Glasgow yn yr Alban; fe fu’n gweithio fel weldar yn y ddinas cyn dod yn ddigrifwr sy’n enwog ledled y byd.