Merch o Gwm Gwendraeth yw enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed eleni.

Daw Mirain Alaw Jones o Gapel Seion, ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Datblygodd ei diddordeb mewn ysgrifennu tra oedd yn astudio Drama a Chymraeg yn Ysgol Maes yr Yrfa. Aeth yn ei blaen wedyn i astudio gradd israddedig a meitr yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ganolbwyntio ar ysgrifennu creadigol a sgriptio.

Mae wedi bod yn rhan o gynlluniau ar gyfer dramodwyr ifanc, gan gynnwys ‘Sgript i Lwyfan’ ac yn fwy diweddar gyda Chwmni Theatr ‘Mewn Cymeriad’