Mae awdur sgript y ddrama ‘Grav’ gan gwmni Theatr Torch wedi disgrifio’r profiad o weld y gynulleidfa ar ei thraed yn Efrog Newydd fel “un o eiliadau mwyaf balch ac emosiynol” ei fywyd.

Gareth Bale ydi seren y ddrama un dyn, ac mae’n adrodd hanes bywyd a gyrfa Ray Gravell ym myd rygbi.

Roedd teulu Ray Gravell yn yr Actors Theatre Workshop ym Manhattan yn Efrog Newydd i wylio’r cynhyrchiad.

Ar ôl y perfformiad neithiwr, lle’r oedd y gynulleidfa ar eu traed, dywedodd y sgriptiwr Owen Thomas ar Twitter: “Roedd cael cymeradwyaeth sefyll yn ninas Efrog Newydd o flaen teulu Grav yn un o eiliadau mwyaf balch a mwyaf emosiynol fy mywyd.”

Dywedodd fod cael rhannu’r profiad gyda Gareth Bale a’r cyfarwyddwr Peter Doran yn brofiad “gwerth y byd”.

Wrth ymateb i’r cynhyrchiad, dywedodd y cynhyrchydd Broadway, Robert Carreon ei fod yn gobeithio y bydd y “cynhyrchiad yn dychwelyd i NYC yn fuan” a bod Gareth Bale “wedi dal y gynulleidfa yng nghledr ei law heb adael fynd”.

Gŵyl yng Ngogledd America

Fe fydd y cynhyrchiad yn dychwelyd i’r Unol Daleithiau’n ddiweddarach eleni.

Fe fydd yn cael ei lwyfannu unwaith eto yng Ngŵyl Cymru Gogledd America yn nhalaith Virginia ar Awst 31 a Medi 1.

Yr ŵyl hon yw’r cynulliad mwyaf o Gymry alltud yng Ngogledd America ac mae’n cael ei chynnal mewn lleoliadau gwahanol bob blwyddyn fel “dathliad o fywyd, treftadaeth a diwylliant Cymru”.

Nod y trefnwyr, Cymdeithas Gogledd America Cymru yw “cynnal, datblygu a hybu treftadaeth ddiwylliannol ac arferion Cymreig”.