Fe fydd lansiad sioe Teletubbies Live yn mynd rhagddo yn Llandudno heno (nos Wener, Rhagfyr 26) er gwaethaf marwolaeth un o’r actorion gwreiddiol a fu’n chwarae ‘Tinky Winky’.

Bu farw Simon Shelton o hyperthermia yr wythnos hon, ac yntau’n ddim ond 52 oed. Roedd wedi hyfforddi’n ddawnsiwr bale, ac wedi portreadu’r Teletubbie piws ar y gyfres deledu ers y dechrau.

Ond yn ôl llefarydd ar ran canolfan Venue Cymru yn Llandudno – lle bydd taith y sioe lwyfan o gwmpas gwledydd Prydain yn dechrau heno – ni fydd marwolaeth yr actor yn cael effaith ar y trefniadau.

Roedd Simon Shelton yn aelod o gyfres wreiddiol y rhaglen blant rhwng 1997 a 2001, ond cast newydd sbon fydd yn perfformio yn y cynhyrchiad hwn, meddai’r llefarydd wedyn.

Mae’r daith yn para tan fis Hydref, pan fydd yn darfod yn Blackpool.