Mae un o theatrau enwocaf Llundain – y Theatre Royal yn Haymarket – ar werth.

Cafodd yr adeilad rhestredig Gradd I, a’i awditoriwm 893-sedd, a’i ddodrefn glas ac aur, ei redeg gan dair cenhedlaeth o’r un teulu ers y 1970au.

Ond, yn ôl cadeirydd presennol y theatr, Arnold Cook, fe ddaeth hi’n bryd ildio’r awenau i “genhedlaeth newydd o freuddwydwyr”.

Mae dogfennau cyfreithiol yn rhwystro’r adeilad rhag cael ei ddefnyddio at unrhyw berwyl arall heblaw am weithgaredd theatrig, wedi iddo gael ei werthu.

Mae’r sefydliad wedi bod yn rhan o fywyd celfyddydol prifddinas Lloegr ers bron i 300 o flwynyddoedd – a’r Theatre Royal Haymarket yw’r drydedd theatr hynaf yn Llundain.

Y pensaer John Nash oedd yn gyfrifol am gynllunio tu allan yr adeilad sy’n dyddio’n ôl i 1821. Roedd safle wreiddiol y theatr, ers 1720, ychydig gamau o’r lleoliad presennol.