Mae arweinydd y New York City Ballet yn ymddeol, wrth i’r cwmni ymchwilio i honiadau o gamymddwyn rhywiol.

Fe ddaeth datganiad Peter Martins, 71, mewn llythyr at fwrdd cyfarwyddwyr y cwmni ddechrau’r flwyddyn. Yn y llythyr, mae hefyd yn gwadu pob un cyhuddiadau o aflonyddu neu gam-drin aelodau, yn cynnwys dawnswyr.

Mae’r cwmni wedi cyhoeddi ei fod yn cynnal ymchwiliad annibynnol i’r honiadau, wedi iddyn nhw dderbyn llythyr dienw yn cyhuddo’r arweinydd o harasio.

Er ei fod wedi “cydweithredu’n llawn” gyda’r ymchwiliad, meddai Peter Martins yn ei lythyr, mae’n mynnu fod y brosesn “wedi bod yn dreth boenus” arno ef ei hun a’i deulu.

“Mae’n bryd i mi ymddeol,” meddai wedyn, “gan ddod â’r bennod yma i ben”. Mae’n mynnu y bydd yr ymchwiliad wedi ei gael yn ddieuog o unrhyw gamymddwyn.

Mae cadeirydd bwrdd y New York Ballet, Charles Scharf, wedi diolch i Peter Martins am ei holl waith yn arwain y cwmni am dros 30 mlynedd.