Cafodd Daniel Evans ei ysbrydoli gan hanes twyll Cymro arall ar raglen Who Wants To Be A Millionaire? ar gyfer ei gynhyrchiad diweddaraf yn y West End.

Cafwyd y cyn-Uwchgapten Charles Ingram yn euog yn 2003 o ymgais i gyflawni twyll ariannol drwy ofyn i’w ffrind Tecwen Whittock i beswch er mwyn rhoi’r atebion iddo ar y rhaglen deledu cyn iddo fynd ymlaen i ennill £1m.

Cynhyrchiad gan y Chichester Festival Theatre yw hwn, sydd wedi’i ysgrifennu gan James Graham, ac fe fydd yn cael ei lwyfannu yn y Noel Coward Theatre yn Llundain.

Ond mae’r cynhyrchwyr yn pwysleisio mai gwaith ffuglen yw hwn ac nad yw’n bortread o bobol go iawn.

Bydd y cynhyrchiad yn dechrau ar Ebrill 10 y flwyddyn nesaf.