Mae pantomeim blynyddol cwmni Mega eleni wedi’i seilio ar un o chwedlau mwya’r Mabinogion, sef Culhwch ac Olwen.

“Ni’n ei alw fe’n banto, ond mewn ffordd ni’n trio cael pobol ifanc i fwynhau sioe sy’n cynnwys elfennau o banto gan gyflwyno elfennau eraill fel eu bod nhw’n dysgu rhywbeth am eu hanes,” meddai Dafydd Hywel wrth golwg360.

Ag yntau’n Brif Weithredwr ar gwmni Mega, mae’r cwmni wedi cyflwyno pantomeim blynyddol ers 1994.

Mae’n esbonio eu bod wedi cynnal sioeau yn y gorffennol am Gapten Madog, Blodeuwedd a Gwylliaid Cochion Mawddwy.

Cymeriadau

Mae’r pantomeim eleni wedi’i ysgrifennu gan yr actor Huw Garmon, ac yn rhan o’r cast mae Erfyl Ogwen Parry, Iwan John, Iwan ac Osian Garmon, Elin Haf, Megan Llŷn ac Eleri Morgan.

Mae Dafydd Hywel, sy’n cyfarwyddo’r sioe, yn esbonio fod y pantomeim yn  glynu’n agos at y chwedl lle mae’n rhaid i Culhwch gwblhau deugain o dasgau er mwyn priodi Olwen.

Un o’r rheiny yw hela’r twrch trwyth, ac maen esbonio fod y chwedl yn cynnig “ystod o gymeriadau diddorol” gan gynnwys y cawr Ysbaddaden Bencawr a’r Wrach Ddu Iawn.

Mae’r sioe yn parhau ar daith trwy Gymru tan Rhagfyr 22.