Mae actor a chyflwynydd wedi dweud sut y cafodd ei ysbrydoli i fynd i fyd y theatr gan yr actores Iola Gregory a fu farw heddiw yn 71 oed.

Ac mae un o’i chydweithwyr cynnar hi wedi sôn sut y gallai’r actores o Aberystwyth fod wedi llwyddo y tu allan i Gymru petai hi eisiau hynny.

Dyna ddwy o’r llu o deyrngedau sydd wedi’u talu i’r actores a ddaeth yn enwog am waith teledu fel cymeriad Mrs McGurk ar Pobol y Cwm ond a oedd wedi gwneud cyfraniad mawr at y theatr Gymraeg cyn hynny.

Wrth gyhoeddi’r newyddion, fe ddywedodd y BBC y byddai’n rhan o deulu’r opera sebon am byth.

Ysgogiad

“Ei gwaith gyda Theatr Bara Caws yn yr 80au a ysgogodd fi i fod yn actor,” meddai Gareth Potter, mewn un o nifer o negeseuon trydar i gofio amdani. “Menyw hyfryd a pherfformiwr gwych.”

Gan Iola Gregory y cafodd y ffotograffydd Emyr Young waith gynta’, pan oedd yntau’n dechrau ym myd y theatr ac mae wedi sôn am gryfder a chynhesrwydd ei chymeriad.

Ar un adeg, meddai, fe fu hi ei denu i ymuno â Chwmni Theatr Everyman pan oedd hwnnw’n cynnwys enwau mawr fel Bill Nighy, Jonathan Pryce, Julie Walters a Peter Postelthwaite ond ei bod wedi dewis dod yn ôl i Gymru.

‘Menyw gryf’

A hithau’n athrawes i ddechrau, fe ddaeth i fyd y theatr trwy Ganolfan Felin-fach ac wedyn trwy fod yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr y Werin, y cwmni theatr mewn addysg cynta’ Cymraeg … a dyna pryd y rhoddodd gyfweliad swydd i Emyr Young.

“O’n i’n crynu braidd,” meddai. “Oedd Iola yn fenyw gryf iawn, iawn, ac roedd hi’n gwybod ei stwff. Ond fues i yno am bedair blynedd a gawson ni lot fawr o hwyl a sbri.

“Oedd hi’n fraint rhannu llwyfan gyda Iola; oedd hi’n caru ei gwaith, oedd e yn ei DNA hi. Oeddech chi’n gwybod bod rhywbeth arbennig yn perthyn iddi.”

Un o sylfaenwyr Bara Caws

Pan adawodd Theatr y Werin i ymuno ag Everyman, “roedd yna rhywbeth ar goll wedyn,” meddai Emyr Young ond fe ddaeth Iola Gregory yn ôl i Gymru gan ddod yn un o’r criw cynnar gyda chwmni theatr cymunedol arloesol Bara Caws.

“Roedd hi’n rhan bwysig o’r symudiad at theatr gymunedol yn y dyddiau hynny. Oedd pob perfformiad yn bwysig gan Iola; roedd hi’n gallu eich ysbrydoli chi a’ch tywys chi pan oedd pethau’n anodd.”

Ond roedd hi hefyd wedi dangos ei gallu’n cymryd rhai o rannau pwysica’r theatr Gymraeg, gan gynnwys Siwan yn nrama Saunders Lewis – “un o’i pherfformiadau mawr” meddai Emyr Young.

‘Cymeriad mawr’ meddai Huw Jones

Dim ond yn ddiweddarach y daeth Iola Gregory yn wyneb amlwg ar y teledu, yn benna’ trwy gymeriad brith Mrs McGurk yn oes aur Pobol y Cwm ac wedyn mewn llu o berfformiadau ffilm a theledu, gan gynnwys ffilmiau Rhosyn a Rhith a Stormydd Awst a chyfresi fel Joni Jones, MInafon, a Rownd a Rownd.

Roedd hi’n un “o gymeriadau mawr y byd perfformio yng Nghymru dros y 40 mlynedd diwetha’,” meddai Cadeirydd S4C, Huw Jones.

“Pa bynnag rôl y byddai hi’n ei berfformio, byddai ei prhesenoldeb i’w deimlo ar lwyfan, teledu neu ffilm – awydd o wir ddawn i bortreadu cymeriad.

“Roedd ei chyfraniad i’r byd drama yn un anferthol, ei hymroddid i’r diwydiannau creadigol yn angerddol ac fe fydd yna golled aruthrol ar ei hôl.”

  • Fe fu Iola Gregory’n briod gyda’r actor Robert Blythe ac roedd ganddyn nhw ddwy ferch, gan gynnwys yr actores Rhian Blythe. Yn ddiweddarach fe fu’n bartner i’r bardd Gerallt Lloyd Owen.