Mae’r actores Iola Gregory – sy’n fwyaf adnabyddus am actio rôl Jean McGurk yng nghyfres Pobol y Cwm – wedi marw.

Ac mae cynhyrchwyr a chast yr opera sebon wedi talu teyrnged iddi gan ddweud ei bod hi’n “galon i’r Cwm” am ddegawd.

Dechreuodd ei gyrfa yn actores broffesiynol yn yr 1970au ac mi ddaeth yn wyneb cyfarwydd ar gynyrchiadau teledu a ffilm Cymraeg yr 1980au.

Bu’n chwarae rôl mam Joni Jones ar y gyfres deledu o’r un enw; ac fe ymddangosodd hefyd mewn ffilmiau gan gynnwys Aderyn Papur, Rhosyn a Rhith, a Stormydd Awst.

Yn ogystal â’i gwaith o flaen y camera, mi roedd Iola Gregory yn un o sylfaenwyr Theatr Bara Caws yn 1977.

“Calon i’r Cwm”

“Jean McGurk yw un o gymeriadau mwyaf poblogaidd ac eiconig Cwmderi,” meddai Cynhyrchydd Pobol y Cwm, Llŷr Morus.

“Yn cadw’r Deri am ddegawd, roedd Mrs Mac yn galon i’r Cwm, weithiau’n ffraeth, weithiau’n ffyrnig.

“Mi fydd hi’n rhan o deulu Pobol y Cwm am byth. Ry’n ni oll, y cast a’r criw, yn meddwl am deulu a ffrindiau Iola Gregory.”

“Colled aruthrol”

Mae Cadeirydd Awdurdod S4C wedi talu teyrnged i Iola Gregory gan ei disgrifio fel “un o gymeriadau mawr” y byd drama yng Nghymru.

Dywed Huw Jones: “Roedd yn dristwch clywed am farwolaeth Iola Gregory, un o gymeriadau mawr y byd perfformio yng Nghymru dros y 40 mlynedd diwethaf.  Pa bynnag rôl y byddai hi’n perfformio, byddai ei phresenoldeb i’w deimlo ar lwyfan, teledu neu ffilm, arwydd o wir ddawn i bortreadu cymeriad.”

Ychwanegodd: “Roedd ei chyfraniad i’r byd drama yn un anferthol, ei hymroddiad i’r diwydiannau creadigol yn angerddol ac fe fydd yna golled aruthrol ar ei hol.”