Ar ôl teithio’r holl ffordd o’r Bont-faen i Wolverhampton i berfformio ei gig stand-yp cyntaf, mae Cymraes yn dweud ei bod yn awyddus i wneud mwy o gigs yn y dyfodol.

Fe berfformiodd Esyllt Mair yn un o nosweithiau comedi enwog Funny Women yr wythnos ddiwethaf, ac wrth siarad am y profiad, dywed fod perfformio’n Saesneg wedi helpu â’i nerfau drwy fod fel “mwgwd”, am ei bod yn ail iaith iddi.

Er gwaethaf y nerfau, mae’n dweud bod y “buzz” o wneud i bobol chwerthin wedi cydio ynddi a’i bod yn awyddus i berfformio eto ac o bosib drwy’r Gymraeg rhyw bryd.

“Fi’n gweithio yn y maes cysylltiadau cyhoeddus so dw i’n gyfarwyddwr â sefyll lan a siarad â phobol a gwneud cyflwyniadau, felly roedd yr ochr yna ddim yn fy mhoeni i,” meddai’r fam o Aberystwyth sy’n byw ger y Bont-faen erbyn hyn.

“Beth oeddwn i’n nerfus amdano oedd jyst bod fi ddim yn mynd i fod yn ddoniol o gwbl. Mae’n un peth i allu bod yn ddoniol gyda dy ffrindiau neu wneud rhyw quips ar Twitter ac ati.

“Ond yn sydyn pan ti’n gorfod rhoi pum munud at ei gilydd, ti ddim yn gwybod shwt fath o gynulleidfa mae’n mynd i fod, beth yw eu hoedran nhw, pa fath o references maen nhw’n mynd i allu uniaethu gyda nhw… mae e’n really anodd!

“Unwaith wnaethon nhw chwerthin am y tro cyntaf, wnes i jyst ymlacio achos roeddwn i’n teimlo hyd yn oed os nad ydyn nhw’n chwerthin eto, o leia’ maen nhw wedi chwerthin unwaith! So roeddwn i’n hapus gyda hwnna.

“Fi jyst yn cofio meddwl pan wnes i orffen ac eistedd i lawr, roedd y teimlad yma, roeddwn i’n gwybod bod fi mo’yn gwneud e ‘to.

“Mae e’n buzz, pan mae rhywun yn chwerthin ar bethau ti wedi dweud, felly yn bendant, mae gen i ddiddordeb mawr mewn trio gwneud cymaint o gigs a galla’ i nawr i weld shwt mae’n datblygu.”

Perfformio’n Saesneg yn “fwgwd”

“Fi’n teimlo gyda Saesneg, mae e fel rhyw fath o fwgwd, achos taw hon yw fy ail iaith i, dyw e ddim cant y cant pwy ydw i felly mae’n teimlo mwy fel rhyw fath o act,” meddai.

“Gyda stwff Cymraeg, mae’n gwneud i fi deimlo bach mwy exposed falle’ achos dyna pwy ydw i.

“Ond wedi dweud hynna, bydden i’n dwlu cael cyfle i wneud e’n Gymraeg hefyd achos fi’n siŵr y byddai’r broses yn wahanol, felly os ydw i’n dod ar draws unrhyw open meics Cymraeg, wnâi yn bendant, ystyried gwneud y rheina.”

 

 

 

“Fi’n trio ffeindio fy llais i achos fi ddim yn gwybod pa fath o gomedi ydw i, mae e’n mynd i fod yn fater o trial and error fi’n credu.

Profiadau personol, stwff am deulu, “anecdotal a’n trio cyflwyno fe mewn ffordd y byddai pawb arall yn gallu uniaethu.”