Mae un o sêr amlycaf byd rygbi Cymru yn camu i lwyfan theatr ac i sgrîn S4C y Nadolig hwn i actio mewn pantomeim wedi’i seilio ar ei fywyd.

Mae Shane Williams yn esbonio nad yw wedi bod ar lwyfan ers ei gyfnod yn yr ysgol ond ei fod yn edrych ymlaen at y cynhyrchiad, Shane a’r Belen Aur, fydd yn codi arian at ddwy elusen ganser – CLIC Sargeant a Felindre (Canolfan Ganser Cymru).

“Sa’ i wedi gwneud rhywbeth fel hyn o’r blaen, mae e tamed bach mas o comfort zone fi. Mae chwarae o flaen miloedd o bobol yn rhwydd o gymharu â hwn,” meddai wrth golwg360.

Er hyn, mae’r cyn-asgellwr yn cydnabod ei bod yn deimlad “sbeshal i gael panto am fy mywyd i.”

‘Dewin’

Mae’r pantomeim wedi’i ysgrifennu gan y digrifwr Tudur Owen, sy’n esbonio fod Shane Williams wedi’i ddisgrifio sawl gwaith yn “ddewin” a “chonsuriwr” ym myd y bêl hirgron.

“Felly roedd ei osod ar lwyfan arallfydol y panto ddim yn ormod o naid,” meddai Tudur Owen wrth golwg360.

“Dw i wedi ceisio glynu at draddodiad y panto traddodiadol wrth adrodd stori Shane, ond wrth reswm mi fydd yna ambell i syrpreis bach annisgwyl yn y stori.”

Y gymuned a’r Gymraeg

Mae Shane Williams wedi dathlu ei ben-blwydd yn ddeugain oed eleni, ac mae bellach wedi rhoi’r gorau i chwarae gyda’i glwb lleol – Yr Aman.

Esbonia ei fod bellach yn canolbwyntio ar heriau triathlon Ironman, yn sylwebu ar y teledu a’r radio ac yn gwirfoddoli i godi arian at elusen ganser Felindre.

“Dw i’n dal i fyw yn ardal Dyffryn Aman ac mae’r plant yn mynd i’r ysgolion lleol,” meddai.

“Mae’n bwysig iawn i wneud pethau fel hyn [y panto] yn y gymuned er mwyn cadw’r iaith Gymraeg i fynd,” meddai wedyn.

Yn rhan o’r cast hefyd mae Tara Bethan, Ieuan Rhys, Rhys ap William, Nigel Owens a Sarra Elgan.

Bydd sioe Shane a’r Belen Aur yn cael ei pherfformio yn Theatr y Dywysoges Frenhinol, Port Talbot ar Dachwedd 22 ac yn cael ei darlledu ar S4C ar noson Nadolig.