Lisa Palfrey, Cat on a Hot Tin Roof (Llun: Johan Persson)
Fe fydd actores o Gymru’n serennu yn y sinemâu ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf wrth i’r ddrama Cat on a Hot Tin Roof gael ei ffilmio yr wythnos hon.

Ers mis Mehefin eleni mae Lisa Palfrey, sy’n wreiddiol o ardal Caerdydd, wedi perfformio yn y ddrama gafodd ei hysgrifennu yn yr 1950au gan Tennessee Williams sy’n enwog am A Streetcar Named Desire.

Bu Lisa Palfrey yn portreadu’r cymeriad ‘Big Mamma’ ac mi fydd y perfformiad olaf yn Theatr The Young Vic, Llundain nos Sadwrn (Hydref 7).

‘Calon y ddrama’

Yn ôl Lisa Palfrey, mae ‘Big Mamma’ yn gymeriad “cariadus iawn” a hi yw “calon y ddrama.”

Er hyn, roedd portreadu’r cymeriad yn dipyn o her am fod y ddrama wedi’i seilio ym Mississippi ac roedd rhaid iddi wneud “dipyn o ymchwil” er mwyn dysgu’r acen.

‘Gorau yn y byd’

Erbyn hyn mae Lisa Palfrey yn byw yn Llundain ac mae actio yn ei gwaed hi a hithau’n ferch i’r actores a’r awdur Eiry Palfrey; ac yn fam i Lowri Palfrey a fu’n rhan o’r gyfres Gwaith/Cartref ar S4C.

“Dw i wedi byw yn Llundain ers blynyddoedd maith,” meddai Lisa Palfrey.

“Fan hyn mae’r gwaith theatr gorau yn y byd, ac mae cael cyfle i wneud drama mor eiconig mewn theatr mor eiconig yn teimlo’n braf iawn.”

Mi fydd Cat on a Hot Tin Roof yn cael ei recordio yn ystod y perfformiad nos Iau ac yn cael ei ryddhau i’r sinemâu ym mis Chwefror 2018.