Mae perfformiad y Theatr Genedlaethol o’r ddrama am farn pobol Mon am Wylfa Newydd, wedi ei ganslo, oherwydd fod un o’r actorion yn sâl.

Fe gafodd perfformiad neithiwr o Hollti ei ganslo hefyd oherwydd nad yw Siw Hughes yn dda.

Manon Wyn Williams ydi awdur Hollti, drama sydd wedi’i seilio ar eiriau go iawn pobol yr Ynys. Y bwriad oedd ei pherfformio yn Theatr Bro Alaw yn Ysgol Uwchradd Bodedern rhwng Awst 8 ac 11.

Mae’r Theatr Genedlaethol wedi cadarnhau y bydd y rheiny oedd wedi prynu tocynnau ar gyfer y naill neu’r llall o’r perfformiadau sydd wedi’u canslo, yn cael eu harian yn ol.