Mae cwmni theatr newydd wedi ei sefydlu yng ngogledd orllewin Cymru gyda’r nod o hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

Bydd un ar ddeg aelod cwmni ‘Amrant’ yn teithio o amgylch Gwynedd a Môn dros yr haf, ac yn cynnal perfformiadau yma ac acw i dwristiaid a thrigolion lleol.

Yn ôl y grŵp mi, fydd “casgliad o berfformiadau sydd yn cyfleu sawl elfen o Gymreictod mewn arddulliau a steiliau gwahanol, rhai mewn ffyrdd hwylus a digri ac eraill yn fwy teimladwy”.

Cafodd y grŵp eu mentora gan gwmni theatr Frân Wen ynghyd ag Arloesi Gwynedd a Môn (Menter Môn).

Mae’r prosiect wedi ei ariannu trwy gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Ymddiriedolaeth Elusennol Môn a’r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA).