Paul Flynn, (Llun: O wefan yr AS)
Mae Aelod Seneddol hynaf Cymru sy’n 82 oed yn cael ei bortreadu am y tro cyntaf mewn sioe gerdd yn un o theatrau Llundain yr haf hwn.

Mae’r sioe wedi’i chynhyrchu gan theatr Donmar Warehouse gyda’r actor Anthony O’Donnell yn chwarae rhan Paul Flynn, Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Casnewydd.

Trawsgrifiad o un o bwyllgorau dethol y Senedd ym mis Hydref 2015 yw sail y sioe, lle’r oedd gwrandawiad i sefydliad Kids Company o Lundain.

Sefydliad i helpu plant difreintiedig yn Llundain oedd yr elusen ac roedd wedi derbyn arian cyhoeddus gan y Llywodraeth Geidwadol cyn mynd i’r wal ddwy flynedd yn ôl.

Mae’r sioe 80 munud yn cynnwys geiriau’r Aelodau Seneddol wrth iddyn nhw holi Prif Weithredwr y sefydliad, Camila Batmanghelidjh.

‘Hollol annisgwyl’

“Mae’r holl beth yn ddiddorol dros ben, a dw i’n credu bod rhai o gwestiynau’r pwyllgor yn dangos y gwastraff ofnadwy o arian cyhoeddus,” meddai Paul Flynn wrth golwg360.

“Roedd e’n brofiad hollol annisgwyl i fod yn rhan o’r peth, ond dw i’n edrych ymlaen at y profiad,” meddai gan esbonio y bydd yn mynd i wylio’r cynhyrchiad nos Fercher.

Ac o ran cyngor i’r actor Anthony O’Donnell, dywedodd y dylai ddefnyddio “llais meddal” sy’n cyfleu “empathi a bygythiad” ar yr un pryd.

Mae’r sioe yn dwyn enw’r pwyllgor – The Public Administration and Constitutional Affairs Committe Takes Oral Evidence on Whitehall’s Relationship with Kids Company neu o’i fyrhau – ‘Committee’.