Mae’r tîm fu’n gyfrifol am y gwaith rheoli llwyfan ar gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Macbeth yng Nghastell Caerffili wedi cyrraedd rhestr fer y Gwobrau Rheoli Llwyfan Cenedlaethol 2017.

Cynhelir y noson wobrwyo yn Llundain ar Fehefin 7.

Bu raid i’r tîm – Gareth Roberts (Rheolwr Llwyfan), Siwan Fflur Griffiths (Dirprwy Reolwr Llwyfan), Caryl McQuilling a Brynach Higginson (Cynorthwywyr Rheoli Llwyfan) – wynebu sawl her wrth fynd ati i weithio ar Macbeth.

Nid mewn theatr arferol y llwyfannwyd y ddrama, ond mewn castell canol oesol, a hynny yng nghanol gaeaf. Ar wahân i’r cymhlethdodau amlwg o lwyfannu cynhyrchiad safle-benodol mewn lleoliad hynafol heb y cyfleusterau arferol, roedd y ddrama’n symud o amgylch y castell, a’r cyfan yn cael ei ddarlledu’n fyw i sinemâu ledled Cymru ar Chwefror 14.

Gyda chast proffesiynol o 12, a chast cymunedol o 20, roedd y gofynion ar y tîm yn sylweddol iawn.

Gweithiodd yr un tîm ar gynhyrchiad Chwalfa yn 2016, ac enillodd wobr am y Cynhyrchiad Gorau yn yr Iaith Gymraeg yng Ngwobrau Theatr Cymru eleni.