Rebecca Trehearn gyda'i Gwobr Olivier (Llun:Chris J Ratcliffe/PA Wire)
Roedd actores o’r Rhyl ymhlith enillwyr Gwobrau Olivier yn Neuadd Royal Albert yn Llundain neithiwr.

Cafodd y Gymraes, Rebecca Trehearn, ei gwobrwyo yng nghategori’r actores orau mewn rôl gynorthwyol mewn sioe gerdd am ei rhan yn y sioe gerdd Show Boat.

Caiff gwobrau’r Olivier eu rhoi i unigolion sydd yn rhan o gynyrchiadau West End dros ystod eang o gategorïau gan gynnwys dramâu, sioeau cerdd, dawns ac opera.

Gwnaeth drama Harry Potter and the Cursed Child dorri record y gwobrau gan ennill naw gwobr yn cynnwys gwobr y ddrama newydd orau.

Billie Piper enillodd y wobr am yr actores orau am ei rôl yn Yerma, ac enillodd Jamie Parker y wobr am yr actor gorau am chwarae’r brif ran yn nrama Harry Potter.