Actor byr o gorff o Landrillo yn Rhos fydd yn chwarae’r brif ran mewn addasiad newydd sbon o stori’r Pibydd Brith.

Mae gan Jay Lusted a’i frawd y cyflwr diastrophic dysplasia sy’n effeithio ar eu tyfiant, ac maen nhw wedi ymddangos mewn sawl cyfres deledu yn y gorffennol. Ond y mis hwn, fe fydd yn chwarae rhan y prif gymeriad yn Dewch Gyda Fi – addasiad Cymraeg gan Menna Elfyn o waith Mike Kenny.

“Mae’n siŵr eich bod wedi dyfalu fy nhaldra oherwydd dyna enw fy ngwefan (3ft 7),” meddai Jay Lusted. “Felly, rwy’n fyr a faswn i ddim yn newid hynny, rwy’n credu i Dduw greu’r hyn ydw i, felly beth yw’r broblem? Does yna’r un!”

Mae’r actor tair troedfedd saith modfedd eisoes wedi gwneud ei farc ym myd chwaraeon cyn troi at fyd y theatr, gan ennill gwobr Personoliaeth Chwaraeon Ieuenctid Cymru dair blynedd yn olynol rhwng 2001 a 2003.

Mae wedi ymddangos ar S4C gyda’i gyfres ei hun, Taith Fawr y Dyn Bach, gan Cwmni Da ar S4C, gan ennill gwobr yng Ngwobrau Ffilm a Theledu Rhyngwladol Gwyliau Efrog Newydd.

Mae hefyd yn seren sawl pantomeim yng Nghymru a Lloegr, ac fe ymddangosodd mewn dwy raglen ddogfen y llynedd, Born Small: The Wedding ar y BBC, oedd yn dangos ei briodas â Chloe.

Pied Piper

Cerdd gan Robert Browning yw’r Pied Piper, sy’n adrodd hanes diflaniad plant Hamlin, ac mae Mike Kenny wedi mynd ati i ail-greu’r stori ar gyfer cynulleidfa gyfoes, gan dynnu ar arbenigedd cerddorol Chris Preece.

Yn y stori hon, mae Jimmy, yr unig blentyn a oroesodd ac a fethodd ddal i fyny gyda’r Pibydd, yn ailadrodd y stori wrth iddo ymgeisio am swydd Arglwydd Faer y dref. Jay Lusted ydi Jimmy.

Bwriad y ddrama ydi ysbrydoli cynulleidfaoedd hen ac ifanc i ddilyn eu breuddwydion, waeth beth fo’u cyfyngderau.

Fe fydd Dewch Gyda Fi yn teithio i Theatr Brycheiniog Aberhonddu; Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe; Y Neuadd Les, Ystradgynlais; ac i Theatr y Torch, Aberdaugleddau.